Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n cydweithio gyda Choed Cadw i ddatblygu Strategaeth Goed a Choetiroedd fydd yn helpu i lywio penderfyniadau ynghylch rheolaeth gyfredol a gwarchodaeth y cynefinoedd bregus hyn. Bydd yn ystyried y lleoliad, math a graddfa mentrau i sefydlu a phlannu coed, gan sicrhau eu bod yn cyfrannu’n gadarnhaol i adferiad natur, lliniariad hinsawdd, gwytnwch busnesau a chymunedau a chymeriad unigryw a lles Eryri.
Nod y strategaeth yw rhoi arweiniad a gweledigaeth ar gyfer mentrau plannu coed, gan ystyried agweddau ecolegol, cymdeithasol a diwylliannol y rhanbarth. Mae’r Awdurdod yn cydnabod yr angen i gydbwyso lleihau carbon a chadwraeth amgylcheddol ag anghenion cymunedau lleol. Trwy fabwysiadu dull cyd-ddylunio, gan gynnwys rhanddeiliaid ac ymgorffori gwybodaeth leol, nod y strategaeth yw bod yn gynhwysfawr, effeithiol a chynaliadwy wrth reoli coed a choetiroedd yn y Parc Cenedlaethol. Y nod yw sicrhau bod mentrau plannu coed yn cyfrannu’n gadarnhaol at nodau hinsawdd a llesiant Eryri a’i thrigolion.
Allwch chi helpu?
Mae gweithredu ar lefelau rhanbarthol a lleol yn hanfodol er mwyn cyflawni’r uchelgais hon ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri. Hoffem glywed gennych chi ynghylch yr hyn y gallwch chi ei wneud er mwyn sicrhau cynnydd effeithiol y strategaeth hon. I’r perwyl hwn, rydym wedi trefnu cyfres o sesiynau galw-mewn mewn gwahanol leoliadau o amgylch y Parc Cenedlaethol, yn ogystal â sesiwn ar-lein lle gallwch archebu slot er mwyn sgwrsio gyda’n swyddogion coetiroedd a chadwraeth.