Mae micro-wirfoddoli yn ffordd syml i bawb helpu i ofalu am fywyd gwyllt a chynefinoedd Eryri.

Trwy gofnodi bywyd gwyllt, tynnu lluniau neu rannu arsylwadau drwy brosiectau gwyddoniaeth dinasyddion dibynadwy, gallwch helpu ymchwilwyr a sefydliadau cadwraeth i ddeall a diogelu rhywogaethau a chynefinoedd lleol yn well.

Mae pob cofnod yn gwneud gwahaniaeth

Does dim angen i chi fod yn arbenigwr ar fywyd gwyllt nac ymrwymo i bob arolwg. Dechreuwch gydag un gweithgaredd sy’n apelio atoch, dilynwch ganllawiau’r prosiect a chyfrannwch pan allwch.

Dilynwch y canllawiau cofnodi bob amser ac osgowch darfu ar fywyd gwyllt, yn enwedig rhywogaethau gwarchodedig neu sensitif.

Tynnwch lun. Darganfyddwch fywyd gwyllt. Helpwch i ddiogelu Eryri.

Mae Eryri yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Ond mae angen i ni ddysgu mwy am y rhywogaethau sy’n byw yma a sut maent yn ymdopi â newidiadau i’r hinsawdd a’u cynefinoedd.

Mae Look Wild yn brosiect gan Barciau Cenedlaethol y DU sy’n helpu pobl i ddarganfod a chofnodi natur drwy ddefnyddio’r ap iNaturalist. Gall eich lluniau a’ch arsylwadau helpu i greu darlun gwell o fioamrywiaeth yn Eryri ac mewn Parciau Cenedlaethol eraill. Does dim angen i chi wybod enw pob planhigyn neu anifail – gall yr ap a’i gymuned eich helpu.

Ymunwch â phrosiect Look Wild ar iNaturalist

Helpwch i adeiladu’r dystiolaeth ar gyfer cadwraeth natur yng Ngogledd Cymru.

Cofnod yw’r Ganolfan Cofnodion Amgylcheddol Leol ar gyfer Gogledd Cymru. Mae’n casglu ac yn rheoli cofnodion bywyd gwyllt sy’n helpu i wella ein dealltwriaeth o rywogaethau a chynefinoedd ac yn cefnogi penderfyniadau cadwraeth.

O aderyn cyffredin yn yr ardd i blanhigyn prin yn y mynyddoedd, mae cofnodion o bob rhan o Eryri yn helpu i greu darlun cliriach o’r bywyd gwyllt sydd i’w weld yma. Mae’n werth cofnodi rhywogaethau cyffredin hefyd, ac nid oes angen i chi fod yn ecolegydd i gyfrannu.

Cylfwynwch gofnod bywyd gwyllt
Cofnodwch beth welsoch chi, ble a phryd.

Pecyn Cymorth Gwyddoniaeth Dinasyddion (Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru)

Edrychwch yn nes. Helpwch i ddiogelu planhigion a ffyngau prin Eryri.
Mae Eryri yn gartref i blanhigion mynyddig prin, ffyngau a rhywogaethau eraill sydd i’w cael mewn ychydig iawn o leoedd eraill. Mae cofnodi’r rhywogaethau hyn yn helpu i ddeall sut mae bywyd gwyllt yn ymateb i newidiadau yn yr amgylchedd ac yn cefnogi gwaith cadwraeth yn y dyfodol.

Archwiliwch gyfleoedd cofnodi PlantlifeDewch o hyd i ymgyrchoedd a gweithgareddau cyfredol.

Ymunwch â’r Cynllun Monitro Planhigion Cenedlaethol.
helpwch i fonitro amrywiaeth planhigion mewn safle arolygu. Mae hyn yn golygu ymweld â’r un safle fwy nag unwaith.

Cymerwch ran yn Waxcap Watch
cofnodwch ffyngau glaswelltir yn ystod y tymor arolygu, fel arfer rhwng mis Medi a diwedd mis Tachwedd.

Gwrandewch, edrychwch i fyny a chofnodwch yr adar a welwch.

Mae cofnodi adar yn helpu ni i ddeall ble mae gwahanol rywogaethau i’w gweld, sut mae eu niferoedd yn newid a pha mor addas yw eu cynefinoedd. Gallwch ddechrau drwy gyfrif adar yn eich gardd neu gofnodi’r adar a welwch wrth fynd am dro. Os hoffech ddatblygu eich sgiliau, mae prosiectau mwy strwythuredig hefyd yn cynnig cyfleoedd i gyfrannu at fonitro tymor hir.

Big Garden Birdwatch – RSPB
Cymerwch ran yn y cyfrifiad adar blynyddol a helpwch i greu darlun cenedlaethol o adar gardd.

Garden BirdWatch — BTO
Cofnodwch yr adar sy’n ymweld â’ch gardd neu ofod awyr agored o’ch dewis yn rheolaidd.

BirdTrack — BTO a phartneriaid
Cyflwynwch gofnodion o’r adar a welwch wrth fynd am dro neu yn ystod ymweliadau eraill.

Cudyll Cymru — BTO
Helpwch i fonitro adar Cymru, gan gynnwys bwncathod, cudyllod, cigfrain, barcutiaid cochion a gwalchod. Mae hyfforddiant ar gael i ddechreuwyr, ond mae’r prosiect yn gofyn am ymrwymiad rheolaidd yn ystod y tymor nythu.

Treuliwch awr yn gwylio’r awyr a helpu i gofnodi bywyd gwyllt nosol.

Mae ystlumod yn rhan bwysig o ecosystemau Eryri. Maent yn bwydo ar bryfed ac yn defnyddio amrywiaeth o gynefinoedd, gan gynnwys coetiroedd, gwrychoedd ac ardaloedd ger afonydd. Mae monitro eu gweithgarwch yn helpu ni i ddeall ble maent i’w gweld a sut mae eu poblogaethau’n newid.

Does dim angen synhwyrydd ystlumod na phrofiad blaenorol i gymryd rhan yn yr arolwg syml hwn.

Take part in the Sunset Survey — Bat Conservation Trust
Treuliwch awr o gwmpas machlud haul yn edrych am ystlumod a bywyd gwyllt nosol arall o’ch gardd, balconi, ffenestr neu fan gwyrdd lleol, yna cyflwynwch eich canlyniadau.

Mae gwenyn, glöynnod byw, pryfed hofran a phryfed eraill yn chwarae rhan bwysig wrth beillio planhigion. Yn Eryri, maent yn dibynnu ar gynefinoedd iach fel glaswelltiroedd llawn blodau, rhostiroedd a choetiroedd. Mae cofnodi peillwyr yn helpu ymchwilwyr i ddeall sut mae poblogaethau pryfed yn newid ac ymhle y gallai fod angen mwy o waith cadwraeth.

Gall hyd yn oed cyfrif byr ddarparu gwybodaeth werthfawr. Dewiswch le diogel, arsylwch heb darfu ar y pryfed a dilynwch ganllawiau pob prosiect.

Cymerwch ran yn y ‘Big Butterfly Count’
Cyfrwch y glöynnod byw a welwch yn ystod cyfnod yr arolwg a chyflwynwch eich canlyniadau.

Cynllun Monitro Peillwyr (PoMS)
Cofnodwch y pryfed sy’n ymweld â blodau dros gyfnod o ddeg munud.

‘Nature’s Calendar’
Cofnodwch arwyddion tymhorol natur, megis planhigion yn blodeuo neu ymddygiad bywyd gwyllt, i helpu gwyddonwyr i ddeall effeithiau tywydd a newid hinsawdd.

Mae brogaod, llyffantod, madfallod a neidrod yn rhan bwysig o’r amgylchedd naturiol. Mae cofnodi eich golygfeydd yn helpu i wella ein dealltwriaeth o ble mae’r rhywogaethau hyn i’w cael ledled Eryri.

Mae rhai rhywogaethau, gan gynnwys y fadfall ddŵr gribog, wedi’u gwarchod gan y gyfraith. Y ffordd orau o helpu yw arsylwi o bell a chofnodi’r hyn a welwch heb darfu ar y bywyd gwyllt.

‘The Record Pool’
Dewch o hyd i ganllawiau ar gofnodi a chyflwyno cofnodion o ymlusgiaid ac amffibiaid.

Mae arfordir Eryri yn gartref i amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid sy’n byw rhwng y llanw a’r trai. Mae cofnodi’r rhywogaethau hyn yn helpu i wella ein dealltwriaeth o gynefinoedd arfordirol a sut maent yn newid dros amser.

Cymerwch ran yn Shoresearch  (Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru)Ymunwch ag arolygon gwyddoniaeth dinasyddion ar y lan a helpwch i gofnodi bywyd gwyllt ar hyd arfordir Gogledd Cymru.

Llwybr Arfordir Cymru

Darganfyddwch ffyrdd o gofnodi natur a chyfrannu at brosiectau gwyddoniaeth dinasyddion wrth grwydro’r arfordir.