Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Beth wnaeth i ti wirfoddoli gyda’r Parc Cenedlaethol?

Roeddwn yn edrych am gyfleoedd i’m helpu i fynd allan ar ôl i mi ymddeol o redeg maes gwersylla ar gyrion Caernarfon. Rwyf bob amser wedi mwynhau’r bryniau, felly edrychais tuag at y Parc Cenedlaethol am gyfleoedd. Fe ddes i o hyd i Gymdeithas Eryri a chyn bo hir roeddwn allan yn gwirfoddoli ar draws y Parc Cenedlaethol.

Sut mae gwirfoddoli yn Eryri yn gwneud i ti deimlo?

Roedd bod yn yr awyr agored yn golygu hyd yn oed yn fwy ar ôl dechrau pandemig COVID-19. Felly pan ddaeth y cais am gynllun ‘Croeso Nôl’ drwy Gymdeithas Eryri, roeddwn i’n un o’r rhai cyntaf i gofrestru i wirfoddoli. Roeddwn allan ddwywaith yr wythnos am wyth wythnos yn ystod cynllun. Fe wnes i fwynhau bod allan gyda phobl o’r un meddylfryd, gan gynorthwyo staff y Parc i gadw’r ardal yn daclus a helpu’r rhai sy’n newydd i’r bryniau i werthfawrogi’r amgylchedd yn ddiogel.

Dilynodd cynllun Caru Eryri yn 2021. Dechreuais gymryd rhan yn y cynllun yn ystod ei hwythnosau cynnar. Roedd y ffaith fod Arweinwyr Mynydd profiadol yn rhan o’r cynllun yn gyffrous a daethant â gwybodaeth newydd am wahanol agweddau o’r Parc Cenedlaethol. Dechreuais werthfawrogi mwy ar natur y Parc Cenedlaethol yn ogystal â’i gorffennol diwydiannol. Heb anghofio llwybrau cerdded doeddwn i erioed wedi eu cerdded o’r blaen. Erbyn diwedd y tymor, roeddwn yn gwirfoddoli bron bob penwythnos ac yn mwynhau pob awr ohono.

Oes yna unrhyw beth diddorol neu cofiadwy wedi digwydd wrth i ti wirfoddoli?

Fel gwirfoddolwyr, rydyn ni weithiau’n cystadlu am y nifer fwyaf o fagiau baw cŵn a chrwyn banana rydyn ni’n eu casglu ar wahanol lwybrau. Er ei bod yn ffordd wych o gael eich ysgogi, mae’n aml yn olygfa drist gweld yr holl sbwriel rydyn ni wedi’i gasglu mewn diwrnod o waith.

Pam fyddet ti’n argymell gwirfoddoli yn Eryri i eraill?

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ennill gwybodaeth newydd, cwrdd â phobl o’r un anian, helpu eraill, cael hwyl a mwynhau Eryri—hyd yn oed os ydyw yn y glaw!