Beth wnaeth i ti wirfoddoli gyda’r Parc Cenedlaethol?
Wnes i erioed feddwl pan ddechreuais i wirfoddoli gyda’r Parc Cenedlaethol cymaint y byddwn i’n mwynhau’r profiad. Ar y dechrau, roedd yn gyfle i gwrdd â phobl eraill oedd yn ddigon ffodus i fyw yn Eryri ac yn mwynhau bod yn yr awyr agored.
O fewn dim, cefais fy syfrdanu gan ddylanwad a brwdfrydedd y gwirfoddolwyr eraill.
Mae harddwch, hanes a diwylliant y Parc Cenedlaethol yn cael rinweddau sy’n cael eu cymryd yn ganiataol yn hawdd ac roeddwn yn awyddus i ddysgu a chyfrannu cymaint â’r gwirfoddolwyr eraill. Maen nhw’n dîm arbennig a chefnogol iawn ac o fewn amser byr, roeddwn i’n cymryd pob cyfle posib i wirfoddoli.
Flwyddyn ar ôl dechrau gwirfoddoli, ymunais â thîm Wardeniaid Gwirfoddol yr Wyddfa.
Sut mae gwirfoddoli yn Eryri yn gwneud i ti deimlo?
Mae’n anrhydedd bod yn rhan o dîm sy’n gwarchod ac yn croesawu ymwelwyr i’r ardal ac, wrth gwrs, cyfrannu at helpu i gadw’r Parc Cenedlaethol i edrych ar ei orau. Mae llawer o’r gwaith yn cynnwys rhannu gwybodaeth a chynnig awgrymiadau ar sut i gadw’n ddiogel ar y mynyddoedd.
Mae fy hunanhyder wedi datblygu llawer dros fy nghyfnod o wirfoddoli ac rwyf bellach wedi cwblhau hyfforddiant clwydo mynydda yn ogystal â chymorth cyntaf.
Rwyf hefyd wedi cymhwyso fel Llysgennad Eryri.
Ond, a dweud y gwir, rwy’n parhau i ddysgu ac yn magu fy hyder bob tro rwy’n gwirfoddoli—er gwaethaf y tywydd sobreiddiol ar adegau!
Oes yna unrhyw beth diddorol neu cofiadwy wedi digwydd wrth i ti wirfoddoli?
Oes! Mae rhywbeth diddorol yn digwydd bob tro dwi’n gwirfoddoli. Fel grŵp o wirfoddolwyr, rydym yn cael llawer o hwyl yn cyfarfod â phobl o bob math.
Rydym hefyd yn dod ar draws pob math o bethau amrywiol a diddorol sydd wedi eu gadael ar yr Wyddfa. Mae wedi dod yn dipyn o gystadleuaeth bellach rhyngom ni fel wardeniaid gwirfoddol o ran pwy sy’n dod ar draws y peth rhyfeddaf ar y mynydd!
Ond mae bob amser yn brofiad anodd gweld pethau’n cael eu gadael ar y mynydd. Rydym yn aml yn dod â bagiau niferus o sbwriel gyda ni ar ôl bod ar y copa.
Pam fyddet ti’n argymell gwirfoddoli yn Eryri i eraill?
Mae tîm brwdfrydig yn y Parc Cenedlaethol a byddwn yn argymell unrhyw un sy’n mwynhau bod yn yr awyr agored a gwneud gwahaniaeth i’w hardal leol i roi cynnig ar wirfoddoli.
Mae hyd yn oed fy merch pymtheg oed bellach yn gwirfoddoli gyda mi weithiau. Mae’n ffordd wych o ddod i adnabod pobl eraill sy’n rhannu’r un angerdd dros fod yn yr awyr agored a chael y cyfle i fwynhau’r pethau rydyn ni’n aml yn eu cymryd yn ganiataol.