Newid hinsawdd yw un o fygythiadau mwyaf Eryri a’r byd

Nid oes diwrnod yn mynd heibio heb i hinsawdd gael ei grybwyll yn y newyddion, ar y cyfryngau cymdeithasol neu mewn sgwrs ar y stryd.

Mae arolygon barn yn dangos fod pobl y byd yn poeni’n fwy am newid hinsawdd nag erioed o’r blaen.

Effaith newid hinsawdd

Mae newid hinsawdd yn fater dyrys sy’n effeithio arnom ni fel unigolion, ein cymdeithas a’n byd naturiol.

Nid rhywbeth yn y dyfodol yw newid hinsawdd, ond newidiadau sy’n digwydd nawr; ac a fydd yn effeithio ar Gymru yn sylweddol.

Mae newidiadau hinsawdd naturiol wedi digwydd ar y Ddaear trwy gydol ei hanes, ond mae yna dystiolaeth glir fod gweithgareddau pobl, fel llosgi ffosilau tanwydd, wedi achosi i dymheredd y Ddaear godi.

Er na fydd effeithiau newid hinsawdd yn Eryri mor eithafol â’r rhai sy’n digwydd ym mhen deheuol a dwyreiniol Ynysoedd Prydain, rydym yn sicr o brofi newidiadau sylweddol. Dros y degawdau sydd i ddod, bydd y gaeafau hyd yn oed yn wlypach a bydd tymheredd y gaeaf a’r haf yn codi.

Ystadegau Newid Hinsawdd

Mae effeithiau newid hinsawdd yn digwydd rŵan ac mae’r amser sydd ar gael i gildroi’r effeithiau hyn yn lleihau.

(Ystadegau gan Cyfeillion y Ddaear Cymru)

Mae 25% yn llai o law haf yn disgyn yn Nghymru o’i gymharu â chan mlynedd yn ôl. Mae gostyngiad pellach o 15% yn debygol erbyn canol y ganrif.
Mae tymheredd Cymru dros 1°C yn uwch ar gyfartaledd na’r oedd 100 mlynedd yn ôl.
Mae tymheredd uwch yn effeithio ar gynefinoedd Cymru gan gynnwys planhigion a bywyd gwyllt.
Mae effeithiau newid hinsawdd megis lefelau môr uwch a stormydd amlach yn cynyddu’r perygl o lifogydd a thywydd eithafol yng Nghymru.
Yr Amgylcheddwr

Ymateb i’r heriau

Bydd effeithiau newid hinsawdd yn gadael ei hoel ar Eryri. Mae’n rhaid addasu ac ymateb i newid hinsawdd er mwyn lleihau’r difrod ar y byd naturiol, ein cymdeithas a’r economi.

Mae gan Eryri rywogaethau a chynefinoedd bywyd gwyllt gwerthfawr sydd mewn perygl o ganlyniad i newid hinsawdd. Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol rôl bwysig i’w chwarae wrth fynd i’r afael â hyn.

Un enghraifft yw’r prosiectau i adfer mawndiroedd, gan fod y tirwedd yma yn gallu amddiffyn ac adfer bioamrywiaeth a storio carbon. Mae mawn ucheldir yn y Parc Cenedlaethol yn storfa garbon enfawr (17 miliwn tunnell fetrig), ac mae 30% o dir mawn Cymru yn Eryri.

Gellir defnyddio natur a chynefinoedd fel mawndiroedd, coetiroedd a morfeydd heli er mwyn ceisio adfer effeithiau newid hinsawdd.

Trwy warchod ac ailgysylltu’r ardaloedd hyn gellir gwella eu gwydnwch a lluosogi’r bywyd gwyllt sy’n byw yno.

Gwaith Awdurdod y Parc Cenedlaethol

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gweithio law yn llaw â llawer o endidau eraill i leihau effeithiau newid hinsawdd. Mae pob adran o fewn yr Awdurdod yn cydweithio ar sawl cynllun gan gynnwys:

  • Gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn lleoliadau strategol o fewn y Parc Cenedlaethol
  • Gweithredu mesurau trafnidiaeth a theithio mwy gwyrdd i leihau allyriadau carbon
  • Hyrwyddo a chefnogi gwelliannau o ran effeithiolrwydd ynni mewn adeiladau newydd a thraddodiadol yn unol â pholisi cynllunio
  • Parhau i ddefnyddio a gwella dalfeydd carbon naturiol o fewn y Parc Cenedlaethol
  • Sicrhau ymrwymiad hirdymor i goetiroedd amrywiol a reolir yn dda
  • Ymchwilio i wrthbwyso carbon a chwilio am gefnogaeth ariannol er mwyn gwrthbwyso carbon