Un o heriau mwyaf y Parc Cenedlaethol

Mae rhywogaethau ymledol yn broblem aruthrol ar draws y byd, ac mae cynefinoedd naturiol yn diflannu o’i herwydd. Mae planhigion brodorol hefyd yn diflannu, yn ogystal â’r anifeiliaid sydd wedi esblygu i fyw gyda nhw.

Effaith Rhywogaethau Ymledol

Mae systemau biolegol mewn cystadleuaeth parhaol a’i gilydd am faeth, dŵr a goleuni. Gall cyflwyno rhywogaeth ‘ddiethr’ i’r systemau hyn ei gwneud yn lefydd fwy cystadleuol.

Mae rhywogaethau sy’n fwy gwydn a chryf yn golygu na all rhywogaethau eraill gystadlu yn erbyn y rhywogaeth newydd. Gall rhai o’r rhywogaethau yma droi’n rhywogaethau ymledol sy’n difa’r planhigion eraill o’u cwmpas.

Mae’r Rhododendron ponticum yn un o rhywogaethau ymledol mwyaf niweidiol Eryri. Heb ymyrraeth, gallai’r Rhododendron ponticum achosi problemau enfawr yn y Parc Cenedlaethol gan gynnwys dirywiad cynefinoedd i fywyd gwyllt.

Rho
Rhododenron ponticum
Ychydig iawn o blanhigion sy’n gallu byw law yn llaw â’r Rhododendron ac mae’n rywogaeth gwenwynig i nifer o anifeiliaid. Mae gan y Rhododendron ponticum ddulliau hynod o effeithiol o oroesi. Gall un llwyn gynhyrchu oddeutu miliwn o hadau. Mae angen amodau penodol iawn i’r hadau egino’n llwyddiannus ond petai dim ond un hedyn unigol o bob llwyn yn ymsefydlu, byddai hynny ynddo’i hun yn ymlediad ar raddfa enfawr.
Himalayan balsam
Ffromlys chwarennog
Mae’r Ffromlys Chwarennog wedi lledaenu gymaint erbyn hyn fel nad yw’n bosibl cael gwared arno’n gyfan gwbl ar hyn o bryd. Mae gan y rhywogaeth godennau (pods) sy’n llawn hadau du bychain. Pan fydd rhywun yn brwsio yn erbyn y codennau hyn, byddant yn ffrwydro gan adael i’r hadau wasgaru.
Japane
Llysiau’r Dial
Mae Llysiau’r Dial wedi dod yn rywogaeth ddrwg-enwog iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf—yn bennaf am ei allu syfrdanol i ledaenu. Dyma rywogaeth sydd mor broblemus, mae hi’n anghyfreithlon i achosi’r chwyn hwn dyfu yn y gwyllt. Nid drwy ei hadau mae Llysiau’r Dail yn lledaenu ond drwy’r rhisomau sydd ar wreiddiau’r planhigyn.
Rhywogaethau Ymledol

Trosolowg o rywogaethau ymledol.

Dros y ganrif diwethaf, mae’r Rhododendron ponticum wedi ymledu dros 2,000 hectar.
Daeth y rhan helaeth o’r rhywogaethau ymledol i Brydain fel planhigion i’w tyfu mewn gerddi.
Mae Llysiau’r Dial yn rywogaeth ymledol sy’n ddrwg-enwog am ei gwreiddiau styfnig sy’n lledaenu’r planhigyn yn hawdd.
Mae ardal o faint 400 cae rygbi wedi ei glirio o’r Rhododendron ponticum

Ymateb i’r her

Er nad ydi hi’n anghyfreithlon i dyfu rhywogaethau sy’n cael eu hystyried fel rhai ymledol mewn gerddi, mae hi’n anghyfreithlon i achosi lledaeniad o’r rhywogaethau hyn i lefydd ‘gwyllt’.

Mae angen cymryd gofal mawr wrth gael gwared o wastraff gardd all fod â hadau neu wreiddiau rhywogaethau ymledol ynddynt.

Yn achos Llysiau’r Dial, gall gwreiddiau’r rhywogaeth hwn gael eu cario’n hawdd ar waelodion esgidiau neu ar offer garddio. Drwy’r gwreiddiau hyn mae Llysiau’r Dial yn lledaenu.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ogystal ag endidau eraill sy’n ymwneud â rheolaeth Eryri wedi bod yn cydweithio dros sawl blwyddyn i ymateb i’r broblem rhywogaethau ymledol.

Y dull fwyaf poblogaidd o reoli’r rhywogaethau yw torri’r planhigyn yn ei ôl a defnyddio chwyn-laddwr i ladd y planhigyn. Mae tîm Cadwraeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri hefyd wedi bod yn defnyddio dronau i archwilio darnau mawr o dir am dyfiant newydd o rywogaethau megis Rhododendron ponticum.

Gwaith yr Awdurdod

Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddyletswydd i warchod bywyd gwyllt a thirweddau Eryri.

Mae’r Awdurdod ar flaen y gad yn rhyngwladol o ran mynd i’r afael â rhywogaethau, pla a heintiau ymledol. Mae rhan mawr o waith yr Awdurdod yn cynnwys trefnu cyfarfodydd a chynadleddau, cynnig grantiau a rheoli’r rhywogaethau ymledol yn ein coedlannau.