Hysbysiad pwysig: Mae ein tîm yn cyfrif stoc dros y dyddiau nesaf, a bydd hyn yn achosi oedi wrth brosesu archebion y siop am 2–3 diwrnod. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.

Mae’r Gwasanaeth Wardeiniaid yn eistedd o fewn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Corfforaethol ac mae’n gyfrifol am amrywiaeth o feysydd sy’n ymwneud â gweithio yn yr awyr agored ar draws y Parc Cenedlaethol.

 

Cyfrifoldebau Adrannol

  • Cynnal tirweddau a chynefinoedd amrywiol y Parc Cenedlaethol.
  • Cydweithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir ar faterion megis cadwraeth a mynediad.
  • Datblygu a chynnal cyfres o deithiau a hyrwyddir ar draws y Parc Cenedlaethol.
  • Trafod materion yn ymwneud â materion mynediad o fewn y Parc Cenedlaethol.
  • Cydweithio â Chynghorau Sir er mwyn cynnal a gwella’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.
  • Cynllunio ac ymgymryd â gwaith adfer llwybrau, gan gynnwys palmantu cerrig.
Gwaith y Gwasanaeth

Mae’r Gwasanaeth Wardeinio a Mynediad yn gweithio ar y rheng flaen yn gwarchod Eryri.

Llwybrau a hyrwyddir
Mae Wardeiniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi datblygu dros 50 o deithiau cerdded, yn cynnwys teithiau yn yr ucheldir, mewn coetiroedd a rhai arfordirol.
Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Thir Mynediad Agored
Gweithio gyda Chynghorau Sir i gynnal llwybrau cyhoeddus o fewn y Parc Cenedlaethol yn ogystal â mynediad i dir agored.
Llyn Tegid
Gofalu am lyn naturiol mwyaf Cymru. Mae Llyn Tegid yn llyn poblogaidd ymysg hwylfyrddwyr, padlfyrddwyr, canŵyr, nofwyr a physgotwyr.
Gofalu am Eryri
Mae'r Gwasanaeth Wardeiniaid yn cynnal milltiroedd o lwybrau ledled y Parc Cenedlaethol. Trwy gynlluniau fel 'Milltiroedd heb Gamfeydd', mae'r Wardeiniaid yn anelu at wneud Eryri mor hygyrch â phosib i drigolion ac ymwelwyr o bob math.