Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Heddiw (25 Medi 2023), cynhaliwyd digwyddiad i lansio Cynllun Gwynedd ac Eryri 2035, sef y Cynllun Strategol ar gyfer Twristiaeth Cynaliadwy yn ardal Gwynedd ac Eryri.

Hwn fydd y cynllun strategol newydd ar y cyd fydd yn cynorthwyo’r ardal i gefnogi twristiaeth cynaliadwy i’r dyfodol.

Mae’r Cynllun yn ffrwyth llafur dros chwe mlynedd o waith ymgynghori, ymgysylltu a thrafod wrth i Gyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddod ynghyd gyda phartneriaid i ddatblygu gweledigaeth ac egwyddorion newydd i gefnogi’r economi ymweld yn yr ardal.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Mae gweld lansio’r Cynllun Strategol yma’n gam pwysig iawn i’r ardal wrth i ni symud ymlaen i ddatblygu twristiaeth sy’n gynaliadwy.

“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd yr economi ymweld yng Ngwynedd ac Eryri, ond rydym hefyd yn awyddus i sicrhau bod yr ardal a’i rhinweddau arbennig yn cael eu gwarchod a’u diogelu – fel bod yr hyn sydd mor unigryw yma yn cael ei ddiogelu ar gyfer heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.

“Trwy’r Cynllun rydym yn gobeithio creu Economi Ymweld er budd a lles pobl, amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri.”

 

Mae’r Cynllun Strategol yn adnabod tri egwyddor ar gyfer sicrhau cynaliadwyedd yn y dyfodol:

  1. Dathlu, parchu a gwarchod ein cymunedau, iaith, diwylliant a threftadaeth
  2. Cynnal a pharchu ein hamgylchedd
  3. Sicrhau bod cymunedau Gwynedd ac Eryri’n cael mwy o fantais nac anfantais

Bydd cydweithio mewn partneriaeth yn hanfodol ar gyfer gwireddu’r amcanion strategol o fewn y cynllun.

 

Meddai Emyr Williams, Prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Ni allwn wireddu’r Cynllun Strategol hwn heb weithredu a hynny mewn partneriaeth.

“Mae Awdurdod y Parc yn falch o gael cydweithio gyda Chyngor Gwynedd wrth ddatblygu’r Cynllun Strategol hwn mewn partneriaeth agored a chyfartal.

“Bydd cam nesaf y gwaith yn cynnwys mynd ati i sefydlu Partneriaeth Gwynedd ac Eryri 2035 fydd yn rhoi llais i ran-ddeiliaid yr economi ymweld wrth ddatblygu Cynllun Gweithredu a mesur effaith yr Economi Ymweld ar ein hardal.”

 

Yn ystod y digwyddiad, fe gyhoeddwyd y bydd cronfa yn cael ei lansio’n fuan i gefnogi gwreiddio’r egwyddorion newydd ymysg cymdeithasau twristiaeth, busnesau a chymunedau Gwynedd ac amlinellwyd y gweithredu sydd eisoes yn digwydd yn y maes.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys,  Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Mae hwn yn gyfnod o flaenoriaethau a gweithredu newydd ac rydym yn falch o gyhoeddi cronfa newydd i gefnogi hyn heddiw.

“Er ein bod yn lansio’r Cynllun Strategol heddiw ac yn cyhoeddi cronfa newydd; mae’n bwysig nodi fod llawer wedi wedi digwydd yn barod. Er enghraifft trwy gynllun peilot Arosfan i greu rhwydwaith o safleoedd ar gyfer cartrefi modur yn yr ardal, neu gynllun Llysgennad Eryri a Llysgennad Gwynedd sy’n ceisio arfogi pobl Gwynedd ac Eryri gyda gwybodaeth am eu hardaloedd unigryw.

“Ein bwriad yw parhau i weithredu i gyflawni ein gweledigaeth a byddwn yn gwneud hynny mewn partneriaeth gyda holl ran ddeiliaid y sector a thrwy dargedu cyfleon ariannu llywodraethau Cymru a’r DU.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Smith, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy dros Economi Gynaliadwy:

“Rydym wrth ein bodd o weld lansiad Strategaeth Ymwelwyr Gynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035, a rydym wedi mabwysiadu llawer o’r egwyddorion a’r amcanion yn ein Cynllun Rheoli Cyrchfan ein hunain.

“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi ein busnesau yn ein cymunedau ac yn maes twristiaeth, gan gydbwyso anghenion trigolion lleol ac ymwelwyr ar yr un pryd. Bydd hyn yn ein galluogi i chwarae rhan wrth sicrhau bod gennym economi fywiog a chynaliadwy i ymwelwyr.

“Yn y dyfodol, rydym yn gobeithio dod yn bartner swyddogol Strategaeth Ymwelwyr Gynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035, unwaith y byddwn wedi cynnal ymgynghoriad pellach gyda busnesau lleol Conwy.”

 

Ychwanegodd yr Athro Terry Stevens, arbenigwr yn y maes twristiaeth cynaliadwy:

“Mae twristiaeth gynaliadwy yn ymwneud â chyfateb gwerthoedd, asedau ac uchelgais cyrchfan gyda marchnadoedd ymwelwyr sy’n rhannu’r gwerthoedd hynny.

“Mae Sefydliad Twristiaeth y Byd yn glir mai rheoli cyrchfannau yw’r swyddogaeth bwysicaf mewn twristiaeth a bod datganoli er mwyn i’r cyrchfannau eu hunain arwain y gwaith yn hollbwysig.

“I wneud hyn mae angen Sefydliadau Rheoli Cyrchfannau sydd â digon o adnoddau, sy’n gymwys ac yn berthnasol. Mae’r sefydliadau hyn wastad yn bartneriaeth – rhwng sefydliadau cyhoeddus, preifat, y trydydd sector ac wrth gwrs y gymuned a rwy’n dymuno’r gorau i’r ardal hon wrth iddi fentro i sefydlu a chefnogi twristiaeth gynaliadwy yn yr ardal.”