Y Carneddau

Ardal fwyaf gogleddol y Parc Cenedlaethol yw’r Carneddau.

Mae’r Carneddau’n gartref i ddau o’r pum copa dros 3000 troedfedd yn Eryri—Carnedd Llywelyn a Charnedd Dafydd.

Mae’r ardal hefyd yn gartref i anifeiliaid a phlanhigion prin, gan gynnwys rhywogaethau eiconig fel y frân goesgoch a merlod y Carneddau, yn ogystal â chynefinoedd bregus fel rhostir y mynydd – twndra Cymru. Mae yna hefyd dystiolaeth o weithgaredd dynol yn dyddio yn ôl miloedd o flynyddoedd, ac mae’r olion hyn o bwys rhyngwladol.

Y Carneddau yw’r darn o ucheldir di-dor mwyaf yn y Parc Cenedlaethol sy’n ymestyn dros 220km sgwâr

Cynllun Partneriaeth Tirwedd y Carneddau

Mae partneriaeth o sefydliadau yn gweithio ar gynllun 5 mlynedd i helpu i warchod treftadaeth y Carneddau.

Mae’r dirwedd a bioamrywiaeth dan bwysau gan newid hinsawdd, newidiadau mewn patrymau defnydd tir, rhywogaethau ymledol a phwysau pobl. Mae gwybodaeth draddodiadol, enwau lleoedd a straeon sy’n cysylltu pobl â’r dirwedd hefyd mewn perygl o gael eu colli.

Mae Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn gasgliad o sefydliadau a arweinir gan Barc Cenedlaethol Eryri. Bydd y cynllun yn helpu i hyrwyddo dyfodol positif i’r Carneddau drwy gynyddu dealltwriaeth a mwynhad o’r hanes, traddodiadau diwylliannol a bywyd gwyllt.

Bydd y cynllun yn helpu gwarchod treftadaeth yr ardal trwy hyrwyddo defnydd tir cynaliadwy sy’n amddiffyn cynefinoedd, rhywogaethau ac olion archaeolegol prin, a thrwy gofnodi enwau lleoedd ac atgofion. Bydd grant o £1.7 miliwn gan Gronfa Treftadaeth Genedlaethol y Loteri yn helpu i gyflawni’r cynllun, gwerth dros £4 miliwn, dros y blynyddoedd nesaf.

Amcanion y prosiect

Cydweithio i warchod a dathlu tirwedd y Carneddau.

Amddiffyn rhinweddau arbennig yr ardal
Bydd y cynllun yn amddiffyn rhywogaethau a chynefinoedd prin, olion archaeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol a’r nodweddion tirwedd sydd yn nodweddiadol i’r ardal.
Cadw traddodiadau yn fyw
Mae’r rhain yn cynnwys traddodiadau sy’n arbennig i’r ardal yma yn ogystal â gwybodaeth leol ac enwau lleoedd.
Annog defnydd tir cynaliadwy
Trwy weithio ar y cyd, gall y partneriaid, cymunedau ac eraill wireddu prosiectau i warchod dyfodol cynaliadwy i'r ardal.
Galluogi darganfod y Carneddau
Wrth wraidd y cynllun mae gweledigaeth i helpu cynulleidfa mor eang â phosibl i ddarganfod, gwarchod a dathlu'r Carneddau.
Cynnal niferoedd ymwelwyr
Mae’r Carneddau yn ardal o lonyddwch a bydd y cynllun yn gwarchod hynny fel un o rinweddau arbennig yr ardal.

Tanysgrifio

Tanysgrifio i e-fwletin Partneriaeth Tirweddau Y Carneddau.




Partneriaid Craidd ac Ehangach
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
    Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gweithio i sicrhau dyfodol gynaladwy i’r Parc Cenedlaethol.
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
    Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gorff sydd yn ymwneud â rhan helaeth o faterion amgylcheddol Cymru.
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
    Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gwarchod a gofalu am leoedd fel bod pobl a natur yn ffynnu.
  • Cadw
    Mae Cadw yn gyfrifol am warchod a gofalu am amgylchedd hanesyddol Cymru sy’n cynnwys henebion hynafol megis cestyll, olion diwydiannol a Safleoedd Treftadaeth y Byd.
  • Cymdeithas Eryri
    Elusen cadwraethol yw Cymdeithas Eryri sy’n gweithio â chymunedau lleol, busnesau, mudiadau a chyrff chyhoeddus i ofalu am Barc Cenedlaethol Eryri.

Cyllid

Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Mae’r cynllun yn bosib trwy grant o £1.7m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cyllidebu prosiectau treftadaeth i wella a dathlu treftadaeth ar draws Prydain.

Partneriaid Cyflawni
  • Cwmni Adfywio Abergwyngregyn
  • Prifysgol Bangor (Canolfan Ymchwil Henfaes)
  • Cyngor Mynydda Prydain (BMC)
  • CBS Conwy (Canolfan Ddiwylliant Conwy)
  • Cymdeithas Merlod y Carneddau
  • Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
  • Cyngor Gwynedd
  • Partneriaeth Awyr Agored
  • Partneriaeth Ogwen
  • Amgueddfa Penmaenmawr
  • Plantlife Cymru
  • PONT Cymru
  • RSPB
  • Eryri Bywiol
  • Prifysgol Sheffield (Adran Archaeolegol)
  • Undeb Amaethwyr Cymru
  • Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr