Yn ei gyfarfod ar ddydd Mercher y 30ain o Ebrill, mabwysiadodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ei Strategaeth Coed a Choetiroedd cyntaf erioed. Dyma frwyth llafur bron i ddwy flynedd o gyd-ddylunio gyda phartneriaid, y cyhoedd a pherchnogion a rheolwyr tir er mwyn ehangu, gwarchod ac adfer tirweddau coediog y Parc Cenedlaethol.

Mae gan ein tirweddau coediog ran allweddol i’w chwarae yn ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a’n hymdrechion i adfer natur. Yn ogystal â storio carbon, gwella ansawdd aer a lliniaru effeithiau glaw trwm, mae coed yn darparu cynefin diogel a ffynhonnell fwyd i amrywiaeth o fywyd gwyllt. Gan eu bod yn ffurfio ecosystem sy’n chwarae rhan allweddol mewn atafaeliad carbon, rydym wedi cyd-ddylunio strategaeth 100 mlynedd sy’n amlinellu sut byddwn yn eu gwarchod a’u datblygu trwy dair egwyddor greiddiol yn cynnwys diogelu’r coed sydd gennym, rheoli ein coetir yn well, a chysylltu ac ehangu ein coetiroedd.

Ers bron i ddwy flynedd mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn cyd-ddylunio Strategaeth Coed a Choetiroedd Eryri gyda chefnogaeth Coed Cadw. Yn ystod y cyfnod datblygu, ymgynghorwyd â’r cyhoedd a pherchnogion a rheolwyr tir er mwyn sicrhau strategaeth uchelgeisiol ond realistig oedd yn cynnig hyblygrwydd i weithredu mewn modd nad yw’n amharu ar dir cynhyrchiol.

Ar hyn o bryd mae’r gwaith o baratoi Cynllun Gweithredu Atodol fydd yn llywio’r ymdrech i wireddu’r weledigaeth yn mynd rhagddo. Bydd yn gynllun gweithredu cyfnodol gyda’r gweithredoedd yn deillio o ymgynghoriad cyhoeddus pellach a gynhaliwyd yn y Flwyddyn Newydd. Yn ystod yr ymgynghoriad amlinellodd partneriaid sut y gallan nhw gyfrannu at gyflawniad y strategaeth dros y pum mlynedd nesaf.

Meddai Rhys Owen, Pennaeth Cadwraeth, Coed ac Amaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Rydym yn hynod falch o’r strategaeth hon, yn arbennig gan fod cymaint wedi bod yn rhan o’r daith gyda ni o’r dechrau i’r diwedd. Mae cydweithrediad perchnogion a rheolwyr tir wedi bod yn allweddol wrth ei datblygu, a thrwy drafod ac ymgynghori, a chyd-ddatblygu cynllun gweithredu bydd yn strategaeth y gallant ei pherchnogi, ac felly yn un hyfyw a chyraeddadwy.

Yn ogystal â’r buddion i’r amgylchedd, mae coed a choetiroedd yn asedau gwerthfawr sy’n cyfrannu at hyrwyddo iechyd a llesiant trwy ddefnydd hamdden, addysgol a chymunedol. Diolch i’r strategaeth hon, gallwn fod yn hyderus y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn parhau i elwa o’r hyn sydd gan goed a choetiroedd i’w cynnig.”

 

Y nod yw cwblhau a mabwysiadu’r Cynllun Gweithredu Atodol fydd yn weithredol am y pum mlynedd nesaf erbyn diwedd mis Mai 2025. Gellir gweld copi o Strategaeth Coed a Choetiroedd Eryri 2025-2125 ar wefan Awdurdod y Parc ar Strategaeth Coed a Choetiroedd | Parc Cenedlaethol Eryri.

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

  1. Yn ystod 2024, cynhaliwyd ystod o ymgynghoriadau cyhoeddus a fwydodd i mewn i ddatblygiad y Strategaeth Coed a Choetiroedd drafft. Ymgynghorwyd trwy holiaduron ar-lein, ymgysylltu gyda’r cyhoedd mewn sioeau a digwyddiadau, a chyflwyniadau mewn fforymau lleol e.e. Fforwm Mynediad Lleol a Fforwm Eryri. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus pellach yn gynnar yn 2025 er mwyn casglu gweithredoedd ar gyfer y Cynllun Gweithredu Atodol.

 

  1. Cyd-ddatblygwyd y strategaeth mewn partneriaeth gyda Choed Cadw trwy nawdd gan People’s Postcode Lottery. Dros y 15 mlynedd diwethaf mae’r Woodland Trust wedi derbyn £25 miliwn, ac mae’r diolch am hynny yn mynd i chwaraewyr People’s Postcode Lottery. Bydd yr arian yn helpu gyda’r gwaith o greu, gwarchod, ac adfer coetiroedd brodorol ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig. Mae datblygiad Strategaeth Coed a Choetiroedd Eryri yn bosib oherwydd y cronfeydd hyn, ac yn helpu pobl i gyflawni’r nodau dan sylw.

 

  1. Er mwyn sichrau bod y strategaeth yn cyfleu darlun cywir o’r sefyllfa yn Eryri ac yn seiliedig ar ffeithiau, comisiynwyd cwmni Terra Sulis Research CIC i gynnal ymchwil manwl i’r data sydd ar gael ar gyfer cyflwr presennol coed a choetiroedd yn Eryri. Mae’r canfyddiadau ar gael mewn adroddiad ar wefan APCE.

 

  1. Gellir gweld copi o Strategaeth Coed a Choetiroedd Eryri 2025-2125 ar wefan APCE yma. Bydd y Cynllun Gweithredu Atodol yn cael ei fabwysiadu erbyn ddiwedd Mai 2025, a bydd copi ohono ar gael ar y wefan hefyd.

 

  1. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Ioan Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu ar gwilym@eryri.llyw.cymru neu 01766 770 274