Mae Cronfa Cymunedau Eryri wedi darparu cyllid hanfodol yn ddiweddar ar gyfer gosod paneli solar ar do Clwb Golff Y Bala. Mae’r datblygiad arwyddocaol hwn nid yn unig yn amlygu ymrwymiad y clwb i gynaladwyedd ond hefyd yn dod â manteision niferus i’r gymuned wledig y mae’n ei gwasanaethu.
Mewn ardal wledig fel hon, mae mannau cymunedol fel clybiau golff yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin cysylltiadau cymdeithasol a darparu cyfleoedd hamdden. Mae’r prosiect yma yn sicrhau y gall y clwb barhau i weithredu gan gynnig lle i drigolion ymgynnull a mwynhau gweithgareddau awyr agored.
Bydd gosod paneli solar ar do’r clwb yn cael effaith sylweddol ar ddefnydd ynni’r clwb golff a’r costau cysylltiedig. Trwy harneisio pŵer yr haul, bydd y clwb yn lleihau ei ddibyniaeth ar ffynonellau ynni traddodiadol yn sylweddol, gan arwain at arbedion ar filiau ynni. Yna gellir ail-fuddsoddi’r arbedion hyn i gynnal cyfleusterau’r clwb, gan wella’r profiad cyffredinol i aelodau ac ymwelwyr.
Trwy gynhyrchu ynni glân ac adnewyddadwy, mae’r clwb yn lleihau ei ôl troed carbon ac yn cyfrannu at yr ymdrech fyd-eang i frwydro yn erbyn newid hinsawdd. Mae’r dull blaengar hwn yn gosod esiampl i fusnesau a sefydliadau lleol eraill, gan eu hysbrydoli i archwilio arferion cynaliadwy a chyfrannu at ddyfodol gwyrddach.