Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Dros dymor yr hydref bydd tîm Coedwigaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’n cydweithio gyda menter y Dref Werdd twy ddarparu coed ar gyfer cynllun tlodi tanwydd.

Mae clefyd coed ynn yn lledaenu’n gyflym trwy gefn gwlad Eryri a thu hwnt, gyda’i effaith i’w weld yn amlwg o’r canghennau moel yn nhymor y gwanwyn a’r haf. Erbyn hyn mae’r clefyd wedi effeithio coed ynn ar eiddo Awdurdod y Parc Cenedlaethol ym Mhlas Tan y Bwlch a’r Ysgwrn. Gan fod cyflwr rhai o’r coed hynny bellach wedi croesi’r trothwy o fwy na 50% o’r goeden wedi ei heffeithio gan y clefyd, mae’n rhaid torri’r coed am resymau diogelwch.

Bydd coed sy’n cael eu torri yn cael eu cyfrannu i fenter gymunedol Y Dref Werdd sy’n ymgymryd â chynllun Skyline, sef cynllun sydd â’r nod o ddefnyddio adnoddau lleol er budd y gymuned. Trwy’r cynllun mae sied fawr bwrpasol wedi ei hadeiladu ym Mlaenau Ffestiniog i drîn a sychu’r coed yn barod i’w llosgi. Bydd trigolion lleol sydd â llosgwyr tanwydd soled yn eu cartrefi sy’n galw heibio canolfan Y Dref Werdd i geisio cyngor ynghylch trafferthion ariannol yn derbyn bag neu ddau o goed i’w helpu rhwng taliadau tanwydd y llywodraeth.

Meddai Rhydian Roberts, Swyddog Coedwigaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Gan mai coed wedi eu heintio sy’n cael eu cyfrannu mae’n bwysig atal lledaeniad yr haint i ardaloedd eraill. Er mwyn sicrhau hyn, dim ond boncyffion y coed sy’n cael eu cludo oddi ar y safle, gyda’r gweddill yn cael eu gadael ar y safle i bydru’n naturiol.”

Meddai Wil Gritten o fenter Y Dref Werdd:

“Dim ond un elfen o brosiect Skyline sydd â’r nod o helpu’r gymuned yw’r prosiect tlodi tanwydd. Trwy gynllun Skyline mae’r Dref Werdd hefyd wrthi’n datblygu gardd lysiau a ffrwythau fawr fydd yn cyflenwi bwyd ffres a thymhorol i deuluoedd lleol, yn ogystal â chynnig hyfforddiant garddwriaethol. Rydym hefyd yn y broses o adeiladu sied goed fel canolfan hyfforddiant sgiliau traddodiadol i bobl ifanc lleol.”

Er mwyn cynnal y gwasanaeth coed ar gyfer tlodi tanwydd mae’r Dref Werdd angen cyflenwad rheolaidd o goed, ac felly’n falch o dderbyn unrhyw roddion. Os hoffech chi gyfrannu yna gallwch gysylltu â’r Dref Werdd ar ymholiadau@drefwerdd.cymru neu trwy ffonio 01766 830082.