Darganfyddwch, Archwiliwch, Cwblhewch yr Her a Dathlwch Eryri.
I ddathlu 75 mlynedd o Barc Cenedlaethol Eryri, rydym wedi creu Pasbort Digidol Eryri 75- ap rhyngweithiol sydd am ddim ac yn eich annog i archwilio rhai o dirweddau, cymunedau a thrysorau mwyaf eiconig Eryri.
Darganfyddwch Leoliadau
Gan ddefnyddio'r map rhyngweithiol, gallwch ymweld â lleoliadau ar draws y Parc Cenedlaethol, cofnodi wrth ddefnyddio GPS, ac adeiladau eich casgliad fel yr ydych yn teithio drwy Eryri. Traciwch eich cynnydd, datgloi cerrig milltir, a gweld sut yr ydych yn cymharu ag anturwyr eraill ar y bwrdd arweinwyr.
Lawlwythwch y Cod QR
Boed eich bod am ymweld â phob un o'r 75 lleoliad, yn darganfod lleoedd newydd yn gaos i'ch cartref, neu'n cynlluneio eich anture nesaf, mae'r Pasbort Digidol yn cynnig ffordd hwyliog a gwerth chwil o brofi treftadaeth naturiol a diwylliannol gyfoethog Eryri.
Bydd gwobr yn cael ei chyflwyno i'r 25 person cyntaf sy'n cwblhau pob un o'r 75 lleoliad.
Archwiliwch yr Ap
Map rhyngweithiol sy’n cynnwys 75 o leoliadau ledled Eryri
Cofnodi ymweliadau gan ddefnyddio GPS
Olrhain cynnydd a chyrraedd cerrig milltir
Bwrdd arweinwyr yn arddangos y prif archwilwyr
Darganfod lleoedd a thrysorau newydd ledled y Parc Cenedlaethol
Ymunwch â Her Eryri 75!
Faint o leoliadau allwch chi ymweld â nhw?
Lawrlwythwch Ap Pasbort Digidol Eryri 75, dechreuwch archwilio, a byddwch yn rhan o’r dathliadau i nodi 75 mlynedd o Barc Cenedlaethol Eryri.
https://eryri75.eryri.llyw.cymru/

Crwydrwch. Cofnodwch. Darganfyddwch.