Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cyhoeddi penodiad Gwynedd Watkin, Uwch Swyddog Gweithredol Sirol Undeb Amaethwyr Cymru, yn Gadeirydd newydd Fforwm Eryri. Yn ei gynorthwyo, bydd Rory Francis, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, yn ymgymryd â rôl yr Is-Gadeirydd. Bydd y ddau yn arwain mewn partneriaeth gyda sectorau gwahanol ar draws Eryri i ddiogelu a datblygu Parc Cenedlaethol Eryri ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Fforwm Eryri yn dwyn ynghyd ystod eang o sefydliadau sy’n cynrychioli sectorau creiddiol megis amaethyddiaeth, cadwraeth, twristiaeth a hamdden o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Sefydlwyd y fforwm fel llwyfan cydweithredol i gydlynu’r amcanion strategol a amlinellir yng Nghynllun Partneriaeth Parc Cenedlaethol Eryri, Cynllun Eryri.

Mae Fforwm Eryri’n cyfarfod yn chwarterol, gan weithio ar brosiectau ar y cyd, trafod cynnydd Cynllun Eryri, ac adrodd ar y diweddaraf gan y partneriaid. Ei nod yw datblygu Eryri sy’n lewyrchus, gwydn, a diwylliannol fywiog, tra hefyd yn cyfrannu at amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Dywedodd Gwynedd Watkin, Uwch Swyddog Gweithredol Sirol Undeb Amaethwyr Cymru:

“Ma hi’n fraint i mi gael cadeirio Fforwm Eryri. Rwyf wedi bod yn aelod o’r Fforwm ers blynyddoedd a theimlaf bod angen sicrhau bod llais ffermwyr o fewn Y Parc Cenedlaethol yn cael ei glywed yn holl bwysig i sicrhau bod pawb yn deall cyfraniad y diwydiant amaeth i Eryri. Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r ardal ac i sicrhau bod Cynllun Eryri yn gweithio dros bawb.”

 

Ychwanegodd Rory Francis, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri:

“Mae Eryri yn lle sy’n agos iawn at fy nghalon ond mae’n wynebu llawer o sialensiau, o dwristiaeth anghynaliadwy i’r argyfwng hinsawdd a natur. A’r unig ffordd i gwrdd â’r sialensiau hyn yw i bawb weithio mewn partneriaeth. Bwriad Fforwm Eryri yw dod â mudiadau a phobl at ei gilydd i wneud hyn. Dyma pam ei fod o mor bwysig.”

 

Mae’r ddau yn dod â chyfoeth o arbenigedd ac ymroddiad i’w swyddi. Bydd eu harweinyddiaeth yn ddylanwadol wrth yrru amcanion y fforwm yn ei blaen er mwyn gwarchod prydferthwch naturiol, treftadaeth a llesiant Eryri. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn edrych ymlaen at gefnogi’r bennod newydd hon i Fforwm Eryri dan eu harweiniad, yn enwedig wrth i ni adolygu Cynllun Eryri yn 2025.