Cwrs ymarferol gyda digonedd o gyfleoedd i bawb gymryd rhan a gofyn cwestiynau. Bydd y cwrs yn cynnwys theori sylfaenol ar ddechrau'r diwrnod gan fynd ymlaen i ymdrin â'r canlynol:
- gwahanol fathau o galchoedd
- dewis tywod ac agregau
- ffyrdd gwahanol o gymysgu morterau a phlastrau sy'n addas i'rch prosiect
- pwyntio
- plastro
- gwyngalchu
- limecrete
Dewch a'ch cinio a'r byrbrydau gyda chi yn ogystal â dillad nad oes ots gennych i'w cael yn fudr! Byddwn yn darparu'r celfi, yr offer diogelu personol a'r holl ddeunyddiau angenheidiol.
Dyddiad: 10 Gorffennaf
Lleoliad: Plas Tirion, Y Ganolfan Adeiladu Naturiol, Ffordd Betws, Llanrwst, Conwy LL26 0PU
Amser: 09:30- 16:00
Nifer o lefydd ar gael: 12
Blaendal: Rydym yn gofyn am flaendal o £20 a fydd yn cael ei ad-dalu ar ôl y cwrs.
Mae'r hyfforddiant yma'n cael ei gynnal drwy gefnogaeth ariannol gan LleChi LleNi


Cwrs gweithio gyda chalch: Gorffennaf
From: £20.00
Ymunwch a ni ar gyfer cwrs ymarferol o weithio gyda chalch.