Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra ar gyfer y rhai sydd eisoes â dealltwriaeth sylfaenol o theori calchau adeiladu ond sydd am ddysgu mwy am y gwahanol gymwysiadau ymarferol ar gyfer plastr calch a rendr calch.
Mae'r cwrs yn gyfle i weithio gyda gwahanol fathau o blastr calch, o gymysgeddau poeth traddodiadol i gynhyrchion perchnogol a weithgynhyrchir mewn ffatri. Byddwn yn edrych yn fanylach ar y gwahaniaethau rhwng calchau aer a chalchau hydrolig, yn ogystal ag arddangos gwahanol blastrau inswleiddio sy'n seiliedig ar galch ac sy'n addas ar gyfer adeiladau hanesyddol â waliau solet. Byddwn yn ymdrin â phlastro ar estyll pren, byrddau a gwaith maen ar waliau a nenfydau. Byddwn hefyd yn edrych ar rendrau allanol ac yn dangos y gwahanol opsiynau ar gyfer amddiffyn rhag y tywydd a chydweddu gorffeniadau hanesyddol.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu gan hyfforddwyr sydd â blynyddoedd o brofiad ym maes plastro a rendro calch. Mae'r cwrs yn addas ar gyfer contractwyr a pherchnogion tai fel ei gilydd sydd eisoes â rhywfaint o brofiad o weithio gyda phlastrau calch.
Dewch â'ch cinio a'ch byrbrydau eich hun, yn ogystal â dillad gwaith nad oes ots gennych eu baeddu. Byddwn ni'n darparu'r offer, y cyfarpar diogelu personol (PPE), a'r holl ddeunyddiau y bydd eu hangen arnoch yn ystod y cwrs.
Dyddiad: 18 Medi 2026
Lleoliad: Plas Tirion, Y Ganolfan Adeiladu Naturiol, Ffordd Betws, Llanrwst, Conwy LL26 0PU
Amser: 09:30- 16:00
Nifer o lefydd ar gael: 12
Blaendal: Rydym yn gofyn am flaendal o £20 a fydd yn cael ei ad-dalu ar ôl y cwrs.
Mae'r hyfforddiant yma'n cael ei gynnal drwy gefnogaeth ariannol gan LleChi LleNi

Cwrs Plastro gyda chalch: Uwch
From: £20.00
Cwrs uwch ar gyfer rheini sydd â dealltwiaeth sylfaenol o theori calchau adeiladu.