Ymunwch â ni am ddiwrnod agored i brofi a darganfod mwynderau'r Ysgwrn a gweld beth all y safle ei gynnig i chi a'ch cwsmeriaid. Bydd lluniaeth ar gael.
Mae gan Yr Ysgwrn adnoddau arbennig o dda i gynnig croeso cynnes i ymwelwyr o bedward ban byd:
- Teithiau tywys o safon uchel
- Arddangosfa amrywiol
- Mynediad hygyrch i bawb i bob adeilad
- Siop a siop goffi sy'n gweini cynnyrch lleol blasus a safonol
- Adnoddau amlieithog i grwpiau Ewropeaidd
Wedi ei leoli 1 milltir oddi ar yr A470, mae'r Ysgwrn yn hygyrch oddi ar ffordd Cambrian i bawb sy'n ymweld ag Eryri mewn car neu fws Trawscambria. Saif yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri, mewn tirwedd sydd wedi ysbrydoli llu o artisitiad, beirdd, llenorion a cherddorion. Mae'n amgueddfa achrededig ac yn ennillydd gwobr Dreftadaeth Ewropeaidd Europa Nostra. Mae'r safle'n adnabyddus am ei brofiad ymwelwyr hynaws a'i groeso cynnes.
Lleoliad: Yr Ysgwrn, Trawsfynydd LL41 4UW
Dyddiad: 9fed o Ebrill 2025
Amser: 11:00- 15:00
Archebu: Cysylltwch â'r Ysgwrn i archebu eich lle: yr.ysgwrn@eryri.llyw.cymru
Bydd cinio a lluniaeth ysgafn ar gael.
Mae manylion archebu lle ar y digwyddiad yma i'w gweld ym manylion y digwyddiad.