Dewch i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda ni yn Yr Ysgwrn!

Mwynhewch ddiwrnod llawn creadigrwydd, cerddoriaeth fyw a gweithgareddau hwyliog i’r teulu cyfan - i gyd am ddim.

Drwy gydol y dydd, bydd cyfle i ymwelwyr ymuno â theithiau tywys o amgylch y tŷ a dysgu mwy am ei hanes a’i dreftadaeth.

Rhaglen y dydd

10:15 – 11:45

  • Creu draig neu Gennin Pedr helyg gydag Eirian Muse
  • Sesiwn jamio ar iwcalili gyda Huwcalele

12:00 – 13:00

  • Perfformiad arbennig gan Rhiannon O’Connor (Y Llais)

13:15 – 14:30

  • Sesiwn jamio ar iwcalili gyda Huwcalele
  • Gweithdy ysgrifennu cerddi gyda Mali Elwy

Archebu

Nid oes angen archebu, dewch draw!

Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Mae manylion archebu lle ar y digwyddiad yma i'w gweld ym manylion y digwyddiad.