Sut all eich busnes fanteisio ar dwristiaeth gyfrifol ac arloesi digidol?
Gyda’n gilydd, rydym am ddatblygu ap unigryw ac arloesol fydd yn:
- Cynnig cyfleoedd cadarnhaol i fusnesau’r ardal, gan ymateb i rai o’r heriau masnachol gyda chynigion wedi eu teilwra a gweithgareddau sy’n arwain at wobrau
- Annog ymwelwyr i wneud dewisiadau cynaliadwy ac amgylcheddol gyfeillgar wrth ymweld ag Eryri
Rydym yn gwahodd busnesu o ardaloedd Y Bala, Betws-y-coed a Llanrwst (Codau post: LL23, LL24, LL25, LL26, LL27) i weithdy cyd-ddylunio - yn wir ystyr y gair. Bydd cyfraniad y sector fusnes yn greiddiol i’r prosiect felly rydym yn annog pob busnes i fynychu ag i gynnig eu syniadau.
Manylion y gweithdy
Lleoliad: Plas Tan y Bwlch, Maentwrog, LL41 3AQ
Dyddiad: Dydd Iau, Ionawr 29
Amser: 11:00-16:00
Os oes gennych unrhyw gwestiwn am yr uchod, neu os hoffech gael sgwrs bellach am unrhyw agwedd o’r gwaith hwn – cysylltwch â:
- Catrin Glyn – Rheolwr Prosiect Partneriaethau, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
catrin.glyn@eryri.llyw.cymru - Alec Young – Swyddog Carbon, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
alec.young@eryri.llyw.cymru
Bydd cinio yn cael ei ddarparu am ddim. Os oes gennych unrhyw ofynion dietegol, cysylltwch ag Alec neu Catrin.
Galwad i fusnesau yn Y Bala, Betws-y-coed a Llanrwst
Rydym yn gwahodd busnesu o ardaloedd Y Bala, Betws-y-coed a Llanrwst i weithdy cyd-ddylunio – yn wir ystyr y gair.