Ymunwch ag Eirian Muse o Helyg Lleu i wehyddu eich basged helyg hardd eich hunain! Dewch â phecyn bwyd efo chi. Bydd paned, diodydd meddal a chacennau ar gael i’w prynu yn siop goffi’r Ysgwrn.
Mae’n hanfodol archebu lle ymlaen llaw.
Arweinydd Sesiwn
Eirian Muse (Helyg Lleu)
Pryd a lle
4 Tachwedd, 2023
10yb—4yp
Yr Ysgwrn, Trawsfynydd
Darperir y gweithdy yn rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru a Llywodraeth Cymru drwy weithgareddau Gŵyl Amgueddfeydd Cymru.
Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.
Gwehyddu Basged Helyg gyda Helyg Lleu
Gweithdy gwehyddu basged helyg.