Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Dewch i greu trychfilod a chreaduriaid bach yr ardd drwy ddefnyddio cardfwrdd, papur newydd a papier mache. Mae'r digwyddiad yma yn addas ar gyfer plant rhwng 4-12 oed.

Bydd siop goffi'r Ysgwrn ar agor ar gyfer te, coffi a danteithion blasus ac mae croeso i chi ddod a phecyn bwyd efo chi i ginio! (Tydi'r siop goffi ddim yn cynnig prydau bwyd).

Dyddiad ac amser:

  • 29 Mai 2024 - 10:00yb - 12:00yp
  • 29 Mai 2024 - 13:00yp - 15:00yp

Llefydd ar gael: 30

Lleoliad: Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, LL41 4UW

Archebu: Does dim angen archebu lle i fynychu'r digwyddiad yma.

Mae manylion archebu lle ar y digwyddiad yma i'w gweld ym manylion y digwyddiad.