Gweminar fyw a sesiwn arddangos o ap RHOI, yn cyflwyno ei brif nodweddion a'i swyddogaethau. Bydd y sesiwn yn ymdrin â sut i drefnu gweithgareddau a gwobrau ar y platfform, yn ogystal â sut i wneud y defnydd gorau o'i holl alluoedd a'r data sydd ar gael.
Bydd y sesiwn yn cael ei chyflwyno yn Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd i'r Saesneg. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau yn ystod sesiwn holi ac ateb ar ddiwedd y weminar.
Manylion y Digwyddiad:
Pryd: Rhagfyr 8, 2026
Amser: 15:00 – 16:00
Lle: Arlein (Zoom)
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad cliciwch ar y ddolen: Gweminar RHOI
Nodyn: Bydd dolen Zoom y weminar yn cael ei hanfon at bob unigolyn cofrestredig cyn y digwyddiad.
Mae manylion archebu lle ar y digwyddiad yma i'w gweld ym manylion y digwyddiad.