Ymunwch â ni i ddathlu degawd o dywyllwch yn Eryri a'r cyfle i fod yn Helwyr Llwch Sêr! Bob blwyddyn, mae tua 3,000 tunnell o lwch cosmig yn disgyn i’r Ddaear. Gelwir y gronynnau allfydol hyn sy’n goroesi’r daith trwy ein hatmosffer ac yn cyrraedd y ddaear yn ficrometeorynnau. Ymunwch â ni yn Yr Ysgwrn ar gyfer digwyddiad unigryw i ddadorchuddio’r smotiau cosmig hyn a helpu gwyddonwyr i ddysgu mwy am Gysawd yr Haul cynnar!
Gwybodaeth bwysig
Lleoliad: Yr Ysgwrn
Addas i: Bob oed - plant ac oedolion. Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
Mae'r digwyddiad am ddim,
Tywysydd: Dr Sarah Roberts (MPhys, PhD, MInstP, SFHEA) o Brifysgol Abertawe
Dyddiad: 23/02/2025
Amser cyfarfod: 11:00yb - 12:30yh
Man cyfarfod: Yr Ysgwrn, Blaenau Ffestiniog Gwynedd LL41 4UW.
Cynhelir y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe ac Oriel Science.
Digwyddiad Helwyr Llwch Sêr yn Yr Ysgwrn
Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu degawd o dywyllwch yn Eryri a’r cyfle i fod yn Helwyr Llwch Sêr!