Mae ffotograff Geoff Charles o Carneddog a Catrin Griffith yn ‘edrych dros y bryniau pell’ wrth baratoi i ymadael â’u fferm fynyddig ar lethrau Moel y Dyniewyd yn Eryri yn un o ddelweddau mwyaf eiconig y Gymru Gymraeg. Ar wahân i amgylchiadau trasig sefyllfa’r cymeriadau o’i fewn, daeth y llun i gynrychioli dirywiad ffordd o fyw, iaith a diwylliant yng nghefn gwlad Cymru. Bydd y perfformiad hwn yn cynnwys yr albym cysyniadol Carneddi yn ei chyfanrwydd, yn ogystal â rhoi rhywfaint o gefndir y gwaith a rhannu deunydd archifol ychwanegol.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad: 10 Medi
Amser: 7:30pm- 10:00pm
Lleoliad: Yr Ysgwrn, Trawsfynydd LL41 4UW
Nifer y lleoedd ar gael: 65
Pris: £8 y person
Archebu ac ymholiadau
I ganslo’ch archeb neu wneud ymholiad ynghylch y digwyddiad, cysylltwch â’n Swyddog Cynnwys Digidol:
📧 sara.williams@eryri.llyw.cymru
Iestyn Tyne yn cyflwyno Carneddi
From: £8.00
Perfformiad gan Iestyn Tyne o Carneddi yn ogystal â rhywfaint o gefndir i’r gwaith.