Rydym yn cynnal digwyddiad rhannu gwybodaeth i helpu i ddatblygu Cynllun Gweithredu Adfer Natur (CGAN) Eryri. Bydd y digwyddiad hwn hefyd yn lansio’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus ar gyfer y Cynllun hwn, ynghyd â chyfnod adolygu Cynllun Eryri – cynllun rheoli’r Parc Cenedlaethol.
Rydym yn eich gwahodd i alw heibio i Blas Tan y Bwlch unrhyw bryd rhwng 10:00am a 16:00pm ar 25 Mehefin i rannu eich barn a’ch syniadau ar sut i gynyddu amrywiaeth a helaethrwydd byd natur, a gwella gwytnwch ecolegol ledled Eryri.
Mae’r digwyddiad hwn yn agored i bawb sydd â diddordeb mewn adfer natur yn Eryri. Does dim angen archebu lle – galwch heibio unrhyw bryd. Bydd amrywiaeth o stondinau gan bartneriaid gwahanol sy’n gweithio i warchod cynefinoedd amrywiol ledled Eryri.
Beth i’w ddisgwyl?
Fel rhan o’r digwyddiad, bydd stondinau thematig yn cynrychioli wyth cynefin allweddol:
- Ucheldiroedd a Mawndiroedd
- Glaswelltiroedd
- Cynefinoedd Arfordirol
- Ffermdir
- Coedlannau
- Gwlypdiroedd, Pyllau, Llynnoedd ac Afonydd
- Awyr Dywyll
- Gerddi a Pharciau
Bydd y stondinau hyn yn cael eu cynnal gan bartneriaid amrywiol sy’n gweithio ar y cynefinoedd hyn yn Eryri. Yn ogystal â’r stondinau cynefinoedd, bydd stondin wybodaeth gyffredinol ar y CGAN a Phartneriaeth Natur Eryri, a bydd fideo’n cael ei ddangos wrth i bobl gyrraedd.
Nod y digwyddiad yw annog trafodaeth ynghylch y gwaith adfer natur sy’n digwydd ar hyn o bryd, nodi cyfleoedd ar gyfer gwaith pellach, ac archwilio’r heriau sy’n wynebu’r cynefinoedd hyn. Bydd yr adborth a dderbynnir yn cyfrannu at lunio cynlluniau gwella cynefinoedd yn dilyn lansiad swyddogol y CGAN.
Bydd lluniaeth ysgafn ar gael.
Methu mynychu ar y diwrnod?
Cynhelir sesiwn ar-lein ddydd Iau, 26 Mehefin 2025 am 7:00pm.
Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y sesiwn ar-lein.
Cadwch olwg am ragor o wybodaeth ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Mae manylion archebu lle ar y digwyddiad yma i'w gweld ym manylion y digwyddiad.