Ymunwch â ni am daith gerdded UV gyda'r nos wrth i ni ddathlu Wythnos Awyr Dywyll Cymru yn Ynys Môn. Dewch i gamu i fyd cudd biofflworoleuedd, lle mae planhigion, ffyngau a bywyd gwyllt yn datgelu'u cyfrinachau disglair dan olau uwchfioled.

Dan arweiniad y tywysydd natur profiadol David Atthowe o Reveal Nature, mae'r daith gerdded hon yn cynnig cipolwg diddorol ar ryfeddodau nosol byd natur. Bydd pob cyfranogwr yn cael tortsh UV a sbectol ddiogelwch.

Cynhelir y digwyddiad hwn mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Reveal Nature.

Beth i'w ddod efo chi:

  • Esgidiau cadarn a dillad addas i’r tywydd
  • Tortsh ben neu dortsh llaw

Gwybodaeth bwysig

Dyddiad: Dydd Sadwrn, 1af o Fawrth
Lleoliad: Plas Newydd a'r Ardd, Ynys Môn
Man cyfarfod: Ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol am fwy o wybodaeth
Niferoedd: 15 person y sesiwn (Addas ar gyfer oed 8+, ond rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn).
Cost: Am ddim (Ond mae'n rhaid archebu)

Amseroedd y sesiwn
Sesiwn 1: 18:00 – 19:30
Sesiwn 2: 20:00 – 21:30

Archebwch eich lle a dewch i ddarganfod byd natur mewn goleuni newydd!

Archebu lle
Sesiwn
Nifer o fynychwyr

Saffari Seicedelig Taith Nos UV: Ynys Môn

Ymunwch â ni am Daith Nos UV unigryw wrth i ni ddathlu degawd o dywyllwch yn Eryri.

Category: