Dewch i fwynhau noson o straeon Calan Gaeaf yng nghwmni'r storiwraig o fri, Mair Tomos Ifans! Bydd Mair yn rhannu straeon Calan Gaeaf traddodiadol Sir Feirionnydd efo ni.
Bydd y noson yn cynnwys straeon am ysbrydion a chreaduriaid dychrynllyd ond bydd yn addas i blant a phobl ifanc hefyd. Bydd cawl a diod ar gael i bawb o fewn eu tocyn.
Mae modd i ni gynnal y digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru. Cynhelir y digwyddiad fel rhan o Wyl Amgueddfeydd Cymru.
Manylion y digwyddiad:
Pryd: 30 Hydref 2025
Lle: Yr Ysgwrn, Trawfynydd LL41 4UW
Llefydd ar gael: 50
Cost: Am ddim
Archebu ac ymholiadau
I ganslo’ch archeb neu wneud ymholiad ynghylch y digwyddiad, cysylltwch â’n Swyddog Cynnwys Digidol:
📧 sara.williams@eryri.llyw.cymru
Straeon Calan Gaeaf
Ymunwch â ni am noson o straeon Calan Gaeaf yng nghwmni’r storiwraig o fri, Mair Tomos Ifans!