O ffermdy anghysbell Carneddi, drwy Gwm Bychan ac at lannau Llyn Dinas - dyma daith gerdded gyda sgyrsiau, cerddi a chaneuon fydd yn rhoi albym cysyniadol 'Carneddi' gan Iestyn Tyne yn ei chyd-destun daearyddol, bedwar ugain o flynyddoedd ers cyhoeddi ffotograff enwog Geoff Charles ar glawr blaen Y Cymro.

Arweinir y daith gan Iestyn Tyne a Bethan Wynne Jones.

Bydd angen i bawb ddod ag esgidiau cerdded cryf, pecyn bwyd, dwr a dillad addas, gan gynnwys dillad glaw.

Lle a phryd

Lleoliad: Ffermdy Carneddi, Cwm Bychan a Llyn Dinas

Dyddiad: Dydd Iau, 30 o Ebrill

Amser: 9:30yb- 2:30yp

Man cyfarfod: Llyn Dinas

Archebu lle
Sesiwn
Ebrill 30, 2026 (09:00 - 14:30)
Nifer o fynychwyr

Taith Gerdded ‘Carneddi’

Arweinir y daith gan Iestyn Tyne a Bethan Wynne Jones.

Category: