Cymerwch seibiant o fwrlwm diwrnod y ras ac ymunwch â Davy Greenough am daith gerdded meddylgarwch dan arweiniad o amgylch Llanberis.
Mae’r daith wedi’i chategoreiddio fel un gymedrol, gyda seibiannau rheolaidd ar gyfer myfyrdodau byr dan arweiniad, gan gynnig y cyfle i arafu, mwynhau’r amgylchedd o’ch cwmpas, ac i ymgysylltu â natur.
Bydd Bethan Wynne, Warden Cynorthwyol Yr Wyddfa, hefyd yn ymuno â chi, gan rannu gwybodaeth am yr ardal leol, bywyd gwyllt, a’r gwaith cadwraeth sy’n cael ei wneud i ddiogelu’r rhan arbennig yma o Eryri.
Pwysig: Dim ond cyfranogwyr Pencampwriaeth y Byd Rhedeg Llwybrau XTERRA 2025 fydd yn cael archebu tocyn ar gyfer y daith.
Dyddiad: Dydd Gwener, 11 Gorffennaf
Amser: Yn dechrau am 8:00yb (cyfarfod am 7:45yb)
Lleoliad: Cwm Dwythwch, Llanberis
Lleoedd: Uchafswm o 12
Man cyfarfod: Rheilffordd Yr Wyddfa
Dysgu rhagor am raddfeydd cerdded
Canslo ac ymholiadau
Os hoffech chi ganslo eich lle ar y daith neu wneud ymholiad ynglŷn â'r digwyddiad, cysyllwch â Swyddog Gwirfoddoli a Llesiant yr Awdurdod.
Etta Trumper
Swyddog Gwirfoddoli a Llesiant, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
etta.trumper@eryri.llyw.cymru
Pencampwriaeth Rhedeg XTERRA × Taith Meddylgarwch Llanberis
Cymerwch seibiant o fwrlwm diwrnod y ras ac ymunwch â Davy Greenough am daith gerdded ymwybyddiaeth ofalgar dan arweiniad o amgylch Llanberis.