Ymunwch â Davy Greenough, arweinydd ymwybyddiaeth ofalgar cymwys, ar deithiau cerdded meddylgarwch o amgylch rhai o leoliadau harddaf Barc Cenedlaethol Eryri.
Ymgollwch ym mhrydferthwch yr amgylchedd naturiol wrth i ni fynd ar deithiau cerdded ymwybyddiaeth ofalgar gydag ysbeidiau rheolaidd ar gyfer myfyrdodau byr. Mae’r sesiynau hyn yn berffaith i unrhyw un sy’n dymuno cyfuno ymarfer corff ysgafn ag ymwybyddiaeth ofalgar mewn lleoliad awyr agored heddychlon.
Y mis Chwefror hwn, byddwn yn ymweld â Rhaeadr Fawr, un o raeadrau mwyaf dramatig Eryri. Wedi’i lleoli ar odre gogleddol y Carneddau, mae’r rhaeadr yn rhan o ddisgynfa olaf yr Afon Goch i’r Fenai.
Manylion y daith
- Arweinydd y sesiwn: Davy Greenough
- Lleoliad: Rhaeadr Fawr
- Dyddiad: Dydd Sadwrn, 1af o Chwefror
- Hyd y daith: 4 milltir
- Gradd: Hamddenol
- Amser: Cychwyn am 9:00 y bore
- Nifer y Llefydd: 10
- Cost: £5 y person
Dysgu mwy am raddfeydd cerdded
Cyfarfod: Maes Parcio Is (ger Bontnewydd)
Eiddo Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps
Trefnwyd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Bydd ein Swyddog Gwirfoddoli a Lles yn anfon y manylion ynglŷn â'r daith atoch yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Cynhelir y sesiynau trwy gyfrwng Saesneg, gyda swyddog sy’n siarad Cymraeg o’r Awdurdod Parc yn bresennol.
Canslo ac ymholiadau
Os oes angen i chi ganslo eich archeb neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, cysylltwch â:
Etta Trumper
Swyddog Llesiant a Gwirfoddoli
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
E-bost: etta.trumper@eryri.llyw.cymru
Taith Gerdded Meddylgarwch: Cylchdaith Rhaeadr Fawr
From: £5.00
Ymgollwch yn natur Eryri ar deithiau cerdded meddylgarwch.