Bob mis, mae un o Wardeniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dewis un o’u hoff deithiau cerdded yn y Parc Cenedlaethol. Maent hefyd yn cynnal taith dywys ar hyd eu llwybr dewisol.
Taith gerdded y mis ar gyfer mis Medi yw cylchdaith Llwybr y Pysgotwr a Chwm Bychan, ac fe'i dewiswyd gan Alun Jones, Warden Yr Wyddfa.
Rydym wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr anodd/llafurus ac felly dim ond yn addas ar gyfer cerddwyr profiadol sydd â lefel dda o ffitrwydd. Bydd y tir yn cynnwys bryniau serth a thir garw, felly cofiwch eich esgidiau cerdded.
Llwybr y Pysgotwr a Chwm Bychan
Ym mle?
Dechrau/Diwedd: Maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri ym Meddgelert
Gweld ar What3Words
Gweld ar Google Maps
Pryd?
- Dydd Gwener, Medi 27, 2024
- Bydd y daith gerdded yn cychwyn am 10:00yb
Manylion y daith
- Amser: Tua 5 awr i gwblhau'r daith
- Hyd: 10km / 6.2 milltir
- Math o lwybr: Cylchdaith
- Cofiwch eich pecyn bwyd, a digonedd o ddŵr
Arweinydd y daith
Alun Jones
Warden Yr Wyddfa, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Rhif ffôn: 07900 267505
Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.
Taith Gerdded y Mis: Llwybr y Pysgotwr a Chwm Bychan
Taith gerdded y mis yw cylchdaith Llwybr y Pysgotwr a Chwm Bychan ac fe’i dewiswyd gan Alun Jones, Warden Yr Wyddfa.