Taith gerdded mis Hydref yw taith hamddenol drwy Gwm Nantcol yng nghwmni’r awdures a’r hanesydd lleol, Haf Llewelyn, a’n Uwch Warden y De, David P. Jones. Mae Haf yn enedigol o’r ardal ac yn hanesydd heb ei hail.
Bydd y daith yn cynnig golygfeydd godidog o Ddyffryn Ardudwy, a bydd cyfle i drafod enwau lleoedd lleol a hanes hen furddunod. Mae’r rhan helaeth o’r daith ar lwybr da, ond bydd rhywfaint ar lwybrau cyhoeddus sy’n croesi tir amaethyddol, felly sicrhewch eich bod yn gwisgo esgidiau cerdded addas a dillad synhwyrol.
Ym mle?
Cwm Nantcol, Llanbedr
Lleoliad cyfarfod:
Maes parcio Capel Cwm Nantcol
Cyfeirnod Grid: SH62357 26215 52.815882 -4.044016
Gweld ar What3Words
Gweld ar Google Maps
Pryd?
- Dydd Sadwrn, 26ain o Hydref
- Cyfarfod am 9:30yb a bydd y taith yn cychwyn am 10.00yb
Manylion y daith
- Amser: Tua 3-4 awr i gwblhau'r daith
- Hyd: 5 milltir
- Math o lwybr: Cylchdaith
- Gradd: Cymedrol
Arweinydd y daith
David Jones
Uwch Warden y De, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Rhif ffôn: 07734799249
Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.
Taith Gerdded y Mis: Cylchdaith Cwm Nantcol
Taith gerdded mis Hydref yw taith hamddenol drwy Gwm Nantcol yng nghwmni’r awdures a’r hanesydd lleol, Haf Llewelyn, a’n Uwch Warden y De, David P. Jones.