Ymunwch â’n Wardeniaid Llyn Tegid, Simon ac Arwel, ar gyfer ein Taith y Mis. Bydd y daith yn cychwyn ym maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri ger Llyn Tegid yn Y Bala. Byddwn yn dilyn llwybr ar hyd glannau Llyn Tegid, gan fynd heibio safle Prosiect Diogelwch Cronfa Ddŵr Llyn Tegid.

Bydd y llwybr yn dringo tua Chlwb Golff y Bala, gan fynd ymlaen i dir agored ac i fyny i gopa Moel Garnedd. Ar y copa, cewch eich gwobrwyo â golygfeydd godidog o Lyn Tegid, mynyddoedd yr Arenig, a Chader Idris.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi categoreiddio’r daith hon fel llwybr heriol, sy’n addas ar gyfer cerddwyr profiadol gyda lefel dda o ffitrwydd yn unig. Cofiwch ddod ag offer cerdded priodol a gwisgo esgidiau cerdded cadarn!

Manylion y daith 

  • Dyddiad: Dydd Sadwrn, Rhagfyr 21ain
  • Amser cyfarfod: 9:30yb
  • Lleoliad cyfarfod: Maes Parcio Llyn Tegid - Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
  • Amser: Tua 5 awr i gwblhau'r daith
  • Hyd: 9km
  • Cyfle am bicnic ar y ffordd; dewch â bwyd gyda chi!

Maes parcio Blaendraeth Llyn Tegid
Eiddo Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Gweld map o'r daith

 

Arweinydd y daith
Arwel Morris, Warden Ardal Llyn Tegid a Phenllyn, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Simon Jones, Warden Llyn Tegid, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

 

 

Archebu lle
Sesiwn
Rhagfyr 21, 2024 (09:30 - 13:00)
Nifer o fynychwyr

Taith Gerdded y Mis: Gwastadros, Y Bala

Ymunwch â’n Wardeniaid Llyn Tegid, Simon ac Arwel, ar ein Taith y Mis ar gyfer mis Rhagfyr. Bydd y daith yn cychwyn ym maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri ger Llyn Tegid yn Y Bala.

Category: