Bob mis, mae un o Wardeniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dewis un o’u hoff deithiau cerdded yn y Parc Cenedlaethol. Maent hefyd yn cynnal taith dywys ar hyd eu llwybr dewisol.
Y mis hwn, bydd Gerwyn yn eich tywys ar hyd rhan o Ffordd Cambria / Taith Ardudwy, gan ddatgelu cyfoeth anghofiedig ardal Abermaw. Bydd y daith gerdded 16km (10 milltir) hon yn cymryd tua 6–7 awr, gyda digon o straeon, tirweddau a threftadaeth i’w darganfod ar hyd y ffordd.
Cyfarfod:
Ym Maes Parcio Bwlch y Goedleoedd
(SH 625 166)
Cliciwch yma i weld lleoliad What3Words.
Dyddiad: Dydd Sadwrn, Mawrth 21ain
Amser: 9:30 yb
Y daith gerdded
- Pellter: 16km / Tua 10 milltir
- Hyd: 6/7 awr
Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod gydag offer cerdded priodol – dillad dal dŵr, esgidiau cerdded cadarn, a digon o fwyd a dŵr i’ch cadw i fynd drwy’r dydd. Awgrymir dod a ffyn cerdded gyda chi. Nodir nad oes hawl dod a cŵn ar y daith hon.
Taith y Warden: Taith golud anghofiedig ardal Abermaw
Dyma gyfle gwych i fwynhau tirweddau Eryri, gan hefyd ddarganfod a dysgu mwy am yr ardal.