Ymunwch â ni ar Daith y Warden y mis hwn, lle bydd ein Wardeiniaid, Arwel Morris a Simon Jones, yn arwain taith gerdded gylchol i'r de-ddwyrain o Lyn Tegid. Bydd y daith yn cychwyn ar lan y llyn cyn dringo i fyny i Gefnddwygraig (340m), ac yna'n disgyn i Rhos y Gwaliau.

 

Manylion y daith

  • Man cyfarfod: Maes parcio Blaendraeth Llyn Tegid. Nodwch bod camerâu ANPR yn y maes parcio hwn.
  • What3Words:///teulu.traean.cilagored mae dolen i What3Words ar gael yma
  • Dyddiad: Dydd Sadwrn, 26 Medi
  • Amser: 9:30am
  • Pellter: Tua 6.5km
  • Hyd: Tua 3 hours
  • Gradd y llwybr: Cymedrol
  • Cost: £2.50

Paratoi:Gwnewch yn siŵr eich bod wedi paratoi'n briodol gyda chyfarpar cerdded addas. Argymhellir esgidiau cerdded a ffyn cerdded, mae dillad gwrth-ddŵr yn hanfodol, a dylech ddod â digon o fwyd a diod gyda chi ar gyfer y daith.

 

Archebu lle
Sesiwn
Medi 26, 2026 (09:30 - 12:45)
Nifer o fynychwyr

Taith y Warden: Ardal Llyn Tegid

Ymunwch â’n Wardeiniad ar gyfer cylchdaith i’r De Ddwyrain o Lyn Tegid.

Category: