Ymunwch â'n Uwch Warden y De, David Jones, ar gyfer Cylchdaith Bryn Cader Faner gan gynnwys Llyn Eiddew Mawr a Bach.

Os mai hanes ac archeoleg sy’n mynd â’ch bryd, dyma daith sy’n sicr o fod yn addas i chi. Mae’r llwybr hwn yn eich arwain trwy dirwedd archeolegol arwyddocaol, gan gynnwys Bryn Cader Faner – carn rhyfeddol o’r Oes Efydd. Mae’r garnedd yn olygfa drawiadol, gyda slabiau cerrig yn sefyll allan ar ongl finiog. Mae cerrig mawr yn ffurfio’r cylch, gan gyfuno twmpath claddu â chylch cerrig. Ar ddiwrnod clir, gallwch fwynhau golygfeydd godidog o’r garnedd, gyda chopaon mynyddoedd Eryri yn y cefndir.

Mae angen bod yn ofalus ar rannau o’r daith – gall y llwybr fod yn wlyb a mwdlyd, felly argymhellir gwisgo esgidiau cerdded addas. Sicrhewch eich bod yn dod â dŵr a chinio gyda chi.

 

Manylion y daith

  • Dyddiad: Dydd Sadwrn, 31ain o Fai
  • Amser cyfarfod: 9:30yb a bydd y daith yn cychwyn am 10:00yb.
  • Pellter: 5 milltir (tua 3 - 4 awr)
  • Gradd: Cymedrol

  • Lleoliad cyfarfod: Fferm Moel Y Geifr, LL476YB (Drwy Ganiatâd
    Perchnogion Tir yn unig)
  • Cyfeirnod grid: SH62908 34251 52.8882, -4.03903

Gweld ar What3Words

 

 

 

Archebu lle
Sesiwn
Mai 31, 2025 (09:30 - 14:00)
Nifer o fynychwyr

Taith y Warden: Cylchdaith Bryn Cader Faner

Ymunwch â’n Uwch Warden y De, David Jones, ar gyfer Cylchdaith Bryn Cader Faner gan gynnwys Llyn Eiddew Mawr a Bach.

Category: