Ymunwch â'n Warden, Bethan Jones, am daith gerdded gylchol o amgylch Craflwyn.

Lleoliad Cwrdd: Maes Parcio Craflwyn, 9:30yb (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol)

Manylion y Daith: Gan gychwyn o Faes Parcio Craflwyn, byddwn yn dilyn y llwybr i fyny drwy'r coed, ar hyd Afon y Cwm, cyn disgyn drwy Hafod y Porth a dychwelyd i Graflwyn.

Hyd y Daith: Tua 4.5km.

Amser: 2 awr.

Manylion pellach: Dewch â byrbrydau a dŵr, esgidiau cerdded addas, dillad cynnes a dillad glaw. Mae croeso i chi ddod â pholion cerdded os dymunwch.

*Nodyn Parcio: Mae parcio ym Maes Parcio Craflwyn yn £5 y dydd i rai sydd ddim yn aelodau o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae parcio am ddim i aelodau dilys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Archebu lle
Sesiwn
Tachwedd 1, 2026 (09:30 - 11:30)
Nifer o fynychwyr

Taith y Warden – Craflwyn

Ymunwch â’n Warden, Bethan Jones, am daith gerdded gylchol o amgylch Craflwyn.

Category: