Dewch i ymuno ag Uwch Warden Mynediad y Parc, Jack Peyton, ar gylchdaith drwy Gwm Cewydd, yn cychwyn o faes parcio yn Ninas Mawddwy.

Bydd Tegwyn Jones hefyd yn ymuno â chi ar y daith, gan rannu gwybodaeth werthfawr am hanes yr ardal leol a’r prosiect Cwmni Nod Glas.

Nodwch os gwelwch yn dda: Gall y llwybr fod yn wlyb a mwdlyd mewn mannau, felly argymhellir yn gryf i chi wisgo esgidiau cerdded cadarn. Dewch â dŵr a chinio ar gyfer y daith.

 

Manylion y daith

  • Dyddiad: 26/07
  • Amser cyfarfod: 10:00yb
  • Pellter: 5 milltir / 8km (tua 3 - 4 awr)
  • Gradd: Cymedrol

  • Lleoliad cyfarfod: Maes Parcio Dinas Mawddwy, gyferbyn â Thafarn y Llew Coch.

Gweld map o'r daith

Archebu lle
Sesiwn
Gorffennaf 26, 2025 (10:00 - 14:00)
Nifer o fynychwyr

Taith y Warden: Cwm Cewydd

Dewch i ymuno ag Uwch Warden Mynediad y Parc, Jack Peyton, ar gylchdaith drwy Gwm Cewydd, yn cychwyn o faes parcio yn Ninas Mawddwy.

Category: