Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Pryd
6.00yh - 8.30yh
25ain Chwefror 2024

Lle
Neuadd Bentref Trawsfynydd

Dyma uchafbwynt prosiect cymunedol creadigol Fama, sydd wedi bod yn adlewyrchu ar beth mae'n ei olygu i fod yn berson ifanc o Drawsfynydd heddiw a pham ein bod yn cofio Hedd Wyn, unionganrif wedi i'w gofeb gael ei dadorchuddio.

Dathlu talentau a threftadeth ardal Trawsfynydd drwy gerdd, fideo, straeon a chân gyda Geraint Roberts, Ysgol Bro Hedd Wyn, aelodau o glwb Ffermwyr Ifanc Prysor ac Eden, Lliaws Cain, Meibion Prysor, Tomos Heddwyn, Heledd Haf, Hefin Wyn Jones, Gwion Williams, Babis yr Awen, Siwan Llynor, DJ Anhybys ac eraill.

Estynnir croeso cynnes iawn i bawb ymuno efo ni am noson gymunedol, gynnes.

Bydd lluniaeth i ddilyn yn nhafarn y Cross Foxes, Trawsfynydd.

Digwyddiad yn rhad ac am ddim. Diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru a Magnox am eu cefnogaeth i'r prosiect hwn.

 

Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.

Fama

Dyma uchafbwynt prosiect cymunedol creadigol Fama.

Category: