Mawddach Estuary
Dewiswch eich iaith
Please select your language preference
Hoffwn weld y wefan yn Gymraeg
Parhau yn y Gymraeg
Gallwch newid iaith unrhyw bryd
I would like to view the website in English
Continue in English
You can switch language anytime

Bob mis, mae un o Wardeniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dewis un o’u hoff deithiau cerdded yn y Parc Cenedlaethol. Maent hefyd yn cynnal taith dywys ar hyd eu llwybr dewisol.

Taith Gerdded y mis hwn (Ebrill 2024) yw taith gerdded hir ar hyd glannau deheuol llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, Llyn Tegid.

Pam y daith yma?

Mae Llyn Tegid yn un o gyrchfannau mwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol, sydd yn arwain ar hyd bryniau glannau deheuol Llyn Tegid, gan gynnig golygfeydd trawiadol dros y cefn gwlad agored ac, wrth gwrs, Llyn Tegid ei hun.

Pryd? 

  • Dydd Gwener 19eg o Ebrill, 2024.
  • Cyfarfod am 9:30yb, a bydd y daith gerdded yn cychwyn ychydig wedi'r amser cyfarfod.

Cychwyn y daith

Cyfarfod ym Maes Parcio Llangywer.

  • Mae map o'r daith i'w weld yma. Mae’r ‘P’ ar y map yn dangos lle mae’r daith yn dechrau.

Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps

Am y daith

  • Gradd: Cymedrol/Anodd
  • Hyd: Oddeutu 3 awr.
  • Pellter: 5.5km
  • Cofiwch wisgo esgidiau cerdded addas a dillad synhwyrol.

Tywyswyr y daith

  • Simon Jones, Warden Llyn Tegid
  • Arwel Morris, Warden y Bala

Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.

Taith y Warden: Cylchdaith Llangywer

Ymunwch ag un o wardeiniaid y Parc Cenedlaethol ar gylchdaith o amgylch ardal Llyn Tegid.

Category: