Dan arweiniad Rhys Gwynn, Warden Ardal Bro Idris

Ymunwch â ni ar gyfer ein Taith y Warden y mis, lle bydd un o’n Wardeiniaid yn eich arwain ar un o’u hoff lwybrau cerdded yn y Parc Cenedlaethol. Ym mis Tachwedd eleni, bydd Warden Ardal Bro Idris, Rhys Gwynn, yn eich arwain ar daith gerdded gylchol olygfaol ar ystâd Nannau ger Llanfachreth ar gyrion Dolgellau. Dyma gyfle gwych i fwynhau tirweddau’r hydref, gan hefyd ddarganfod a dysgu mwy am yr ardal.

Y daith gerdded

  • Dyddiad: Dydd Mercher, Tachwedd 26

  • Amser: 10yb

  • Pellter: 4 km

  • Hyd: Tua 1 awr

Parcio: Maes parcio Saithgroesffordd, Llanfachreth (SH 746 212)

Gweld ar ba 3 gair
Gweld ar Google Maps

Paratoi
Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod gydag offer cerdded priodol: dillad dal dŵr, esgidiau cerdded cadarn, a digon o fyrbrydau a dŵr i’ch cadw i fynd drwy’r bore.

Archebu lle
Sesiwn
Tachwedd 26, 2025 (10:00 - 11:15)
Nifer o fynychwyr

Taith y Warden: Cylchdaith Foel Offrwm

Free

Ym mis Tachwedd eleni, bydd Warden Ardal Bro Idris yn eich arwain ar gylchdaith Foel Offrwm.

Category: