Ymunwch â Robat Davies, ein Warden yn Nolgellau, ar gyfer Taith Gerdded y Warden y mis hwn.
Mae'r llwybr byr, golygfaol hwn ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn arwain at Lyn Barfog, llyn sy’n adnabyddus am ei hanes cyfoethog a’i chwedlau. Cyfle gwych i archwilio a dysgu mwy am yr ardal arbennig hon.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi categoreiddio’r llwybr hwn fel llwybr cymedrol. Mae’n addas ar gyfer pobl sydd â rhywfaint o brofiad cerdded cefn gwlad a lefel rhesymol o ffitrwydd. Mae rhai llwybrau serth ar hyd y daith a a gall y rhannau sydd mewn cefn gwlad agored fod yn ddiwyneb. Mae esgidiau cerdded a dillad dal dŵr yn hanfodol.
Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.
Taith y Warden: Llyn Barfog
Ymunwch â Robat Davies, ein Warden yn Nolgellau, ar gyfer Taith Gerdded y Warden y mis hwn.