Bob mis, mae un o Wardeniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dewis un o’u hoff deithiau cerdded yn y Parc Cenedlaethol. Maent hefyd yn cynnal taith dywys ar hyd eu llwybr dewisol.

Y mis hwn, bydd Gerwyn yn eich tywys ar hyd rhan o Ffordd Cambria / Taith Ardudwy, gan ddatgelu cyfoeth anghofiedig ardal Abermaw. Bydd y daith gerdded 16km (10 milltir) hon yn cymryd tua 6–7 awr, gyda digon o straeon, tirweddau a threftadaeth i’w darganfod ar hyd y ffordd.

Cyfarfod:

Ym Maes Parcio Bwlch y Goedleoedd

(SH 625 166)

Cliciwch yma i weld lleoliad What3Words.

Dyddiad: Dydd Sadwrn, 20fed o Fedi

Amser: 9:00 yb

Y daith gerdded

  • Pellter: 16km / Tua 10 milltir
  • Hyd: 6/7 awr

Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod gydag offer cerdded priodol – dillad dal dŵr, esgidiau cerdded cadarn, a digon o fwyd a dŵr i’ch cadw i fynd drwy’r dydd.

Archebu lle
Sesiwn
Medi 20, 2025 (09:00 - 16:30)
Nifer o fynychwyr

Taith y Warden: Taith golud anghofiedig ardal Abermaw

Free

Darganfyddwch gyfoeth anghofiedig ardal Abermaw ar Daith Gerdded y Warden y mis hwn, dan arweiniad Gerwyn Jones.

Category: