Ymunwch â ni ar gyfer Taith Gerdded y Warden ym mis Ebrill 2025 gyda Bethan Jones, Warden Cynorthwyol Yr Wyddfa. Taith gerdded y mis hwn yw Cylchdaith Rhyd Ddu, a ddewiswyd gan Bethan am ei thirweddau trawiadol ac amrywiol.
Mae Cylchdaith Rhyd Ddu yn lwybr sydd wedi ei lleoli ar odre'r Wyddfa. Bydd y daith yn eich arwain ar hyd llwybr o amgylch Llyn y Gader- llyn sydd wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Yna byddwch yn dilyn y llwybr drwy goetir, gan ddychwelyd i odre'r Wyddfa. Mae'n lwybr gwych ar gyfer cerddwyr, beicwyr, a hyd yn oed marchogion, gyda golygfeydd godidog o Ddyffryn Gwyrfai a'r Wyddfa.
Am y daith:
Dyddiad: Ebrill 26ain
Amser cyfarfod: 10:00yb
Man Cychwyn/Diwedd: Maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri, Rhyd Ddu
Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps
Hyd: Tua 2.5 awr
Pellter: 6.25km / 3.8 milltir
Cyfleusterau: Mae toiledau yn y maes parcio, a gallwch ail-lenwi eich poteli dŵr yn yr orsaf ail-lenwi.
Graddfa: Mynediad i bawb
Gwybodaeth am raddfeydd llwybrau
Taith y Warden: Cylchdaith Rhyd Ddu
Ymunwch ag un o wardeiniaid y Parc Cenedlaethol ar gylchdaith o amgylch ardal Rhyd Ddu.