Hysbysiad pwysig: Bydd archebion siop a gaiff eu gwneud ar ôl Rhagfyr 20fed yn cael eu prosesu yn y Flwyddyn Newydd. Diolch.

Dewch i fwynhau diwrnod yn y goedwig gyda'r teulu. Byddwn yn cynnal gweithgareddau coetir yn rhai o goedwigoedd harddaf Parc Cenedlaethol Eryri.

Bydd cyfle i ddysgu sgiliau byw yn y gwyllt, i chwilota am fwyd ac i fwynhau amser ym myd natur.

Addas i blant rhwng 2–12 oed. Fodd bynnag, gofynnir i rieni neu warchodwyr fod yn bresennol yn ystod y sesiwn.

Nodwch nad oes cadw lle ar y sesiynau ar gyfer rheini neu warchodwyr wrth i chi archebu, dim ond i'r plentyn/plant sy'n mynychu. Fodd bynnag, mae gofyn i rieni neu warchodwyr fod yn bresennol yn ystod y sesiwn.

Sesiynau
26 Gorffennaf, 2023 – Farchynys
29 Gorffennaf, 2023 – Yr Ysgwrn, Trawsfynydd
30 Awst, 2023 – Coed Bryn Berthynnau

Bydd y sesiynau'n cychwyn am 13:30 ac yn parhau am oddeutu 2 awr.

Mae'r digwyddiad yma wedi ei chynnal.

Ysgol Goedwig

Gweithgareddau yn y goedwig i blant rhwng 2–12 mlwydd oed.

Category: