Ymunwch â ni am sesiwn awyr agored gyffrous sy'n llawn gweithgareddau natur i'r teulu cyfan ym Mharc y Moch, Bethesda.

Gweithgareddau yn cynnwys:

  • Creu crefftau wedi’u hysbrydoli gan natur
  • Helfa chwilod cyffrous
  • Adnabod a darganfod gloÿnnod byw

Manylion y digwyddiad:

  • Lleoliad: Parc y Moch, Bethesda
  • Dyddiad: Dydd Gwener, 15fed o Awst
  • Amser: 13:30yh – 15:30yh
  • Oedran: Addas ar gyfer plant 2–12 oed
  • Noder: Rhaid i rieni neu warcheidwaid fod yn bresennol drwy gydol y sesiwn os gwelwch yn dda
  • Iaith: Digwyddiad dwyieithog
  • Lleoedd: 10
  • Cost: Am ddim – wedi’i noddi gan Lle Chi Lle Ni

Bydd ein Swyddog Gwirfoddoli a Llesiant yn cysylltu â chi dros e-bost gyda mwy o wybodaeth wrth i'r digwyddiad nesáu.

 

Archebu lle
Sesiwn
Awst 15, 2025 (13:30 - 15:30)
Nifer o fynychwyr

Ysgol Goedwig: Parc y Moch, Bethesda

Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn hwyl yn y goedwig gyda’ch teulu!

Category: