Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn hwyl yn Yr Ysgwrn gyda'ch teulu!
Rydym yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau coetir cyffrous yn rhai o’n hoff fannau ym Mharc Cenedlaethol Eryri – y tro hwn yn Llyn Mair, Maentwrog!
Mae gweithgareddau yn cynnwys:
- Creu crefftau wedi’u hysbrydoli gan natur
- Helfa chwilod cyffrous
- Adnabod a darganfod gloÿnnod byw hardd
Manylion y digwyddiad:
Pryd: Dydd Gwener, 1af o Awst
Lleoliad: Llyn Mair
Parcio: Cilfan ger Plas Tan y Bwlch
Gweld ar What 3 Words
Gweld ar Google Maps
Grŵp oedran: Addas i blant rhwng 2–12 oed. Fodd bynnag, gofynnir i rieni neu warchodwyr fod yn bresennol yn ystod y sesiwn os gwelwch yn dda.
Iaith: Sesiwn dwyieithog
Lleoedd ar gael: 10
Cost: £5 y plentyn
Canslo ac ymholiadau
Os hoffech ganslo eich archeb neu wneud ymholiad am y digwyddiad, cysylltwch â Swyddog Gwirfoddoli a Llesiant Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Etta Trumper: etta.trumper@eryri.llyw.cymru
Ysgol Goedwig: Llyn Mair, Dyffryn Maentwrog
From: £5.00
Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn hwyl yn y goedwig gyda’ch teulu!