Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn hwyl yn Yr Ysgwrn gyda'ch teulu!

Rydym yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau coetir cyffrous yn rhai o’n hoff fannau ym Mharc Cenedlaethol Eryri – y tro hwn yn Yr Ysgwrn, yn Nhrawsfynydd.

Mae gweithgareddau yn cynnwys:

  • Creu crefftau wedi’u hysbrydoli gan natur
  • Helfa chwilod cyffrous
  • Adnabod a darganfod gloÿnnod byw hardd
  • Profi hud y gwanwyn wrth i’r coed ddod yn fyw unwaith eto

Manylion y digwyddiad:

Pryd: Ebrill 25, 13:30yh- 15:30yh

Lleoliad: Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, LL41 4UW

Grŵp oedran: Addas i blant rhwng 2–12 oed. Fodd bynnag, gofynnir i rieni neu warchodwyr fod yn bresennol yn ystod y sesiwn os gwelwch yn dda.

Iaith: Sesiwn dwyieithog

Lleoedd ar gael: 10

Cost: £5 y plentyn

Canslo ac ymholiadau

Os hoffech ganslo eich archeb neu wneud ymholiad am y digwyddiad, cysylltwch â Swyddog Gwirfoddoli a Llesiant Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Etta Trumper: etta.trumper@eryri.llyw.cymru

 

Logo y Bartneriaeth Awyr Agored

Archebu lle
Sesiwn
Ebrill 25, 2025 (13:30 - 15:30)
Nifer o fynychwyr

Ysgol Goedwig: Yr Ysgwrn

From: £5.00

Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn hwyl yn y goedwig gyda’ch teulu!

Category: