Ymunwch â Julia Harrison, Rheolwr Prosiect gyda Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE, a Hilary Kehoe, porwr cadwraeth profiadol sy'n ffermio gyda'i theulu ger Bethesda yng ngogledd Eryri, i ddysgu ychydig mwy am ystyriaethau ac ymarferoldeb pori safleoedd coedwigoedd glaw tymherus yng Nghymru, gan adeiladu ar eu blynyddoedd o brofiad o weithredu prosiectau pori cadwraethol yng ngogledd a chanolbarth Cymru.
Mae'r digwyddiad yma yn webinar fydd yn cael ei gynnal arlein
Manylion y Digwyddiad:
Pryd: 9 Tachwedd 2026
Amser: 19:00- 20:00
Lle: Arlein (Microsoft Teams)
I gofrestru ar gyfer y webinar cliciwch ar y ddolen: Ystyriaethau ac Ymarferoldeb o Bori Safleoedd Coedwig Law Tymherus
Mae manylion archebu lle ar y digwyddiad yma i'w gweld ym manylion y digwyddiad.