Gyda chymorth tîm Wardeiniaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol bydd disgyblion Ysgol Godre’r Berwyn, Y Bala’n cael cyfle i ddysgu am gylch bywyd brithyll trwy brosiect deorfa bysgod arbennig.

Dros yr wythnosau nesaf bydd Wardeiniaid Llyn Tegid yn cydweithio gydag Ysgol Godre’r Berwyn, Y Bala, i sefydlu deorfa bysgod dros dro yn yr ysgol fel rhan o brosiect LIFE Afon Dyfrdwy. Trwy sefydlu’r ddeorfa a gofalu am yr wyau pysgod wrth iddynt ddeor a datblygu i fod yn silod mân bydd y disgyblion yn cael cyfle arbennig i dorchi llewys a dysgu am gylch bywyd pysgod ac ecoleg afon. Wedi deor, bydd y pysgod mân yn aros yn y ddeorfa nes byddant ddigon mawr i’w rhyddhau i Afon Tryweryn, sy’n ymuno ag Afon Dyfrdwy yn Y Bala.

Bydd deorfa arall dan ofal y Wardeiniaid yn eu canolfan ar lan Llyn Tegid, ac oddi yno bydd lluniau byw o’r ddeorfa’n cael eu darlledu ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol fel y gall ysgolion o bob cwr o’r wlad fanteisio ar y prosiect unigryw yma. Yn ogystal, bydd pecyn addysg llawn gweithgareddau ar gael.

Mae’r prosiect deorfa dosbarth yn rhan o brosiect LIFE Afon Dyfrdwy, sydd dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn ei bedwaredd flwyddyn. Trwy weithio mewn partneriaeth â’r gymuned leol a thirberchnogion mae’r prosiect wedi gwneud cynnydd sylweddol yn  nalgylch y Ddyfrdwy i gael gwared â rhwystrau er budd ymfudiad pysgod, gwella arferion ffermio a choedwigaeth ac ehangu cynefin yr afon ar gyfer ystod eang o bysgod yn cynnwys eogiaid, lampreiod a misglod dŵr croyw. Dros y misoedd diwethaf, mae’r prosiect wedi ymgymryd â gwaith yn ardal Y Bala i adfer yr afon islaw Llyn Tegid, wedi i addasiadau hanesyddol o garthu a sythu’r afon arwain at golli cynefin pwysig i bysgod. Bydd y gwaith adfer diweddar yn gwella’r cynefin yn sylweddol er budd yr holl rywogaethau pysgod, yn ogystal â chreaduriaid di-asgwrn-cefn a’r ecosystem ehangach.

Meddai Arwel Morris, Warden Llyn Tegid a’r Ardal:

“Dyma gyfle gwych i ddisgyblion ddysgu am gylch bywyd brithyll trwy brofiad ymarferol. Trwy dorchi eu llewys i baratoi’r ddeorfa, gofalu am yr wyau ac ymweld ag Afon Tryweryn i ryddhau’r pysgod mân, gobeithio y bydd y profiad yn meithrin gwerthfawrogiad o bwysigrwydd gofalu am amgylchedd afon a diddordeb mewn bywyd gwyllt yn gyffredinol.”

Meddai Joel Rees-Jones, Rheolwr Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy:

“Rydym yn hynod falch fod y ddeorfa ddosbarth yn dychwelyd i Ysgol Godre’r Berwyn fel rhan o rôl Parc Cenedlaethol Eryri fel buddiolwr cydlynol i brosiect LIFE Afon Dyfrdwy. Bydd rhoi’r cyfle i blant ysgol lleol weld brithyll yn deor yn y dosbarth yn annog gwell dealltwriaeth o’u hafonydd lleol a’r effaith gadarnhaol y gall pobl ei gael ar oroesiad rhywogaethau eiconig fel brithyll ac eogiaid”.

Meddai o Sara Morris, Pennaeth Ffês 1 Ysgol Godre’r Berwyn, Y Bala:

“Mae’r disgyblion wedi dangos diddordeb o’r cychwyn cyntaf yn y prosiect yma. Daeth Arwel a Simon o Barc Cenedlaethol Eryri i osod y ddeorfa gyda’r disgyblion a chawsant eu gweld yn gosod dau gant a hanner o wyau brithyll yn y ddeorfa. Maent yn cadw golwg fanwl arnynt bob diwrnod ac yn edrych ymlaen i’w gweld nhw’n deor ac yn datblygu. Dyma brofiad go iawn o ddysgu am gylch bywyd un o’r pysgod sy’n byw yn ein afonydd lleol.” 

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

  1. Mae’r prosiect deorfa yn cael ei arwain gan Wasanaeth Wardeinio Awdurdod y Parc fel rhan o’i ymrwymiad i LIFE Afon Dyfrdwy sydd dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch amcanion y prosiect yma – Cyfoeth Naturiol Cymru / LIFE Afon Dyfrdwy (naturalresourceswales.gov.uk)
  2. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad cysylltwch â Gwen Aeron Edwards – Swyddog Cyfathrebu Cynllunio a Rheolaeth Tir ar gwen.aeron@eryri.llyw.cymru neu 07887452467